Teledu

RSS Icon
22 Rhagfyr 2015

Yn gaeth i gamblo – dioddef yn dawel ar Dim Ond y Gwir

GYDA phroblem gamblo yng Nghymru ar gynnydd mae’r ddrama S4C Dim Ond y Gwir yn uwcholeuo’r dioddefaint drwy un o’i brif gymeriadau. 

Ar ddechrau’r gyfres ddrama, sy’n dilyn hynt a helynt gweithwyr llys barn wrth eu gwaith ac yn gymdeithasol, gwelwn y cymeriad Gwyn yn cael gafael ar obsesiwn newydd – gamblo. Wrth i’r gyfres ddabtlygu gwelwn yr hwyl diniwed yn troi’n broblem wirioneddol i’r cyw fargyfreithwr ifanc wrth i’w gamblo ddechrau amharu gyda’i waith a’i fywyd personol. Daw’r broblem yn amlwg wrth i’w un o’i gyfellion, Karen, ddarganfod ei obsesiwn a’r effaith andwyol ar ei fywyd pan aiff Gwyn i drafferth tu allan i’r Clwb Hwylio un noson. 

Dywed yr actor Rhodri Sion sy’n chwarae cymeriad Gwyn: “Mae nghymeriad i, Gwyn, wedi ffeindio’i hun mewn twll, yn byw dau fywyd gan geisio cyfuno ei waith o ddydd-i-ddydd â phroblem gamblo dwys. 

“Mae rhywun yn dychmygu ei fod o’n brofiad unig ac ofnus iawn ac er na fyddwn i byth yn barnu na phregethu ar neb, dwi’n gwybod bod ‘na help i’w gael i helpu pobl ddelio gyda phroblemau fel hyn.”

Nid yw problemau Gwyn yn anarferol yn ôl arbenigwyr gyda hyd at 2% o ddynion yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn yn cael eu hystyried yn gamblwyr pathalegol. Er nad oes ffigyrau penodol ar gyfer Cymru dywed elusenau sy’n helpu dioddefwyr yma fod y broblem yn un gudd ond yn enfawr ac yn niweidio bywydau unigolion a theuluoedd. 

Dywed elusenau yma fod y Flwyddyn Newydd yn gyfnod arbennig o anodd i ddioddefwyr wrth iddyn nhw gael eu temtio i gamblo er mwyn clirio dyledion Nadolig. 

Yn anhebyg i broblemau caeth eraill, ychydig o gefnogaeth sydd wedi bod hyd yn hyn i ddioddefwyr sy’n gaeth i gamblo. Mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r broblem, mae elusennau  Stafell Fyw Caerdydd a CAIS yn cydweithio ag Alcohol Concern a Chanolfan Astudiaethau Trin Caethiwed Action on Addiction er mwyn rhedeg gwasanaeth newydd i helpu pobl yng Nghymru i fynd i’r afael â’u problemau gamblo – Curo’r Bwci/Beat the Odds. 

Dywed Wynford Ellis Owen, sy’n arwain Curo’r Bwci ar ran Stafell Fyw Caerdydd fod gweld cymeriad sy’n dioddef ar y sgrin yn help.
Meddai: “Mae unrhyw beth sy’n codi ymwybyddiaeth o’r broblem hon yn help i ddeall be sy’n wynebu dioddefwyr bob dydd.

“Nid yw gamblo’n ffenomen newydd, ond mae gamblo eithafol ar gynnydd yng Nghymru. Mae’r ffigyrau ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod modd ystyried bod bron 2% o ddynion yn Gamblwyr Patholegol. Gall problemau gamblo arwain at faterion emosiynol, ariannol a seicolegol difrifol iawn y mae’n anodd sylwi arnynt hyd nes bod y sefyllfa’n ddwys iawn i’r unigolion sy’n cael eu heffeithio.

“Mae hi’n haws nag erioed gamblo heddiw – un ai ar y stryd fawr neu ar gyfrifiadur neu’r teledu. Gydag oddeutu 1,500 o Beiriannau Betio Ods Sefydlog yng Nghymru, mae’r cyfanswm ar gyfartaledd sy’n cael ei wario ar bob peiriant ychydig dros £1,000,000 y flwyddyn, neu oddeutu £3,000 bob dydd – sy’n gyfystyr â gwariant o £675 y flwyddyn gan bob oedolyn yng Nghymru.

“Nod Curo’r Bwci yw cynnig gwasanaeth newydd na welwyd mo’i fath yng Nghymru o’r blaen. Rydym ni eisiau mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â gamblo problemus ac annog unrhyw un sy’n teimlo’i bod yn colli rheolaeth dros ei bywyd yn sgil gamblo i gysylltu â ni er mwyn helpu creu pecyn teilwredig i’w gyflwyno ledled Cymru.”

Er mwyn helpu rhai bydd yn cael eu heffeithio gan rhaglenni olaf y gyfres bydd S4C yn cydweithio gyda’r elusen Stafell Fyw Caerdydd er mwyn cynnig cyngor drwy’r elusen.
Mae Dim ond y Gwir yn cael ei darlledu bob nos Fercher am 8.30yh o’r gloch tan Ionawr 13 a bydd y penodau ar gael i’w gwylio eto ar wefan S4C ac ar iplayer wedi hynny.

Rhannu |