Teledu

RSS Icon
21 Rhagfyr 2015

Cyfle i ail-fyw siwrnai hanesyddol Cymru i gystadleuaeth Euro 2016

Fe fydd stori ymgyrch hanesyddol Cymru i gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc haf nesaf yn cael ei hadrodd ar S4C y Nadolig yma mewn rhaglen arbennig o’r enw, ‘Y Daith I Ewro 2016: Allez Cymru!’.

Mae’r rhaglen, sydd yn cael ei darlledu nos Lun, 28 Rhagfyr, yn dangos goliau o bob gem ragbrofol, lluniau a clipiau, rhai sydd heb eu gweld o’r blaen a chyfweliadau ecsgliwsif gyda’r hyfforddwyr, staff a’r chwaraewyr, gan gynnwys y rheolwr Chris Coleman, yr is-reolwr Osian Roberts a’r capten Ashley Williams.

Er bod nhw wedi colli eu gêm ddiwethaf-ond-un oddi cartref ym Mosnia, cafodd hanes ei greu ar y noson wlyb honno yn Zenica, wrth i Gymru lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers 1958.

Gyda’i chwaraewyr, staff a 700 o gefnogwyr tu mewn i’r stadiwm, y rheolwr Chris Coleman dechreuodd y dathliadau ar y noson fythgofiadwy yna.

Yn y rhaglen, dywed Chris am y foment honno: “Wrth edrych tu ôl i’r ffens ar y cefnogwyr, fe allwn weld dynion yn crio achos fod nhw wedi bod trwy gymaint dros y blynyddoedd. Maen nhw wedi ein dilyn ni ers blynyddoedd, trwy gydol eu bywydau ac maen nhw wedi cael lot o siomedigaethau. Ond ar y diwrnod hwn, gyda phawb gyda’i gilydd, roedd pobl yn crio, yn dathlu’n wyllt ac roedd y cyfan wedi bod yn werth yr holl ymdrech.”

Ychwanegodd capten Ashley Williams: “Mae’n rhywbeth ti wedi breuddwydio amdano gydol dy fywyd ond dwyt ti byth yn siŵr os wyt ti am ei gyflawni. Ond wrth edrych yn ôl, wnaethon ni ddim baglu dros y llinell, doedd ddim angen dibynnu ar lwc, roedden ni yn rheoli’n ffawd drwy’r flwyddyn.

“Da ni wedi bod gyda’n gilydd am flynyddoedd - yr un grŵp o chwaraewyr, felly mae’n grŵp o hogiau sydd yn teimlo fel brodyr. Ar ddiwedd y dydd, ‘da ni wedi cyflawni rhywbeth wnaiff uno ni am byth a dw i’n meddwl bydd y grŵp yma yn un arbennig iawn i bob un ohonom ni.”

Yn ogystal â’r ddrama ar y maes chwarae, mae Y Daith i Ewro 2016: Allez Cymru! yn edrych ar olygfeydd cofiadwy eraill yn ystod yr ymgyrch, fel dathliadau’r chwaraewyr i ffwrdd o’r camerâu teledu ac ymweliad y garfan i’r Fflandrys i weld beddau milwyr Cymry a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ymgyrch yn cael ei groniclo gan nifer o negeseuon trydar a’i hysgrifennwyd gan y Prifardd Llion Jones.

Yn dilyn y datganiad fod S4C yn darlledu’n fyw o bob gêm Cymru yn rowndiau'r grŵp, yn nhwrnamaint Ewro 2016, mae’r rhaglen hefyd yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth yn Ffrainc yr haf nesaf.

Dywed y chwaraewr canol cae Joe Allen: “Dydi o ddim wir wedi ’sinko’ mewn eto. Mae’n braf meddwl bod yr holl wlad yn gwybod dy fod yn un o'r chwaraewyr wnaeth chwarae rhan yn yr ymgyrch mae'n deimlad gwych. Ma’ bron pawb yn y wlad yn edrych ymlaen at haf nesaf a Ffrainc.”

Ychwanegodd y golwr Owain Fôn Williams, ”Rydan ni i gyd fel Cymry wedi bod yn disgwyl ers blynyddoedd i gyrraedd a gwneud rhywbeth fel hyn. Rydan ni i gyd di bod efo'n gilydd mewn ffordd ac rydan ni i gyd di yn gobeithio bod Cymru fel tîm, fel gwlad, yn cyrraedd rhywle lle da ni ddim di bod ers dyddiau John Charles. Mae gweld ein gwlad mewn pencampwriaeth fel yna'n mynd i fod yn amazing.”

Y Daith i Ewro 2016: Allez Cymru!

Nos Lun, 28 Rhagfyr 9pm, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Llun: Joe Ledley sydd yn ail-greu ei dawns Bosnia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl buddugoliaeth dros Andorra (Propaganda-Photo.com: Dave Rawcliffe)


 

Rhannu |