Teledu

RSS Icon
21 Rhagfyr 2015

Blwyddyn gofiadwy Nigel Owens yn gorffen gyda chryn sioe

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anferth i’r dyfarnwr rygbi o bentre’ Mynyddcerrig - ac mae'n gorffen y flwyddyn ar uchafbwynt arall…  cyflwyno sioe Nadolig fawreddog ar S4C.

Yn Hosan Nadolig Nigel ar ddydd Nadolig am 9.30 ar S4C, bydd y gŵr 44 oed yn arwain noson mewn ffordd na phrofodd erioed o’r blaen, wrth groesawu eicon y byd rygbi Shane Williams a diva y byd adloniant Margaret Williams mewn sioe sy'n llawn syrpreisus.

Mae’r sioe yn llawn hwyl, gwledd o adloniant i’r teulu ac ambell bengwin. Ac mae direidi naturiol Nigel yn dod i’r amlwg wrth iddo chwarae triciau clyfar iawn ar Margaret Williams a Shane Williams.

Gallwn ond dweud bod Nigel yn cael hwyl ‘garw’ yn twyllo’r gantores o Fôn ac yn ‘siarp’ iawn wrth berswadio Shane i actio’r milwr Samurai!

“Fe gawson ni lot o sbort - ac rwy’n gobeithio y cewch chi gymaint o hwyl hefyd. Mae e'n brofiad newydd imi arwain sioe yn y ffordd yma, gan fy mod yn cyflwyno, cyfweld a thynnu pobl i’r llwyfan' o’r gynulleidfa. Dw i'n gwybod sut mae Graham Norton yn teimlo nawr - mae hi’n gymaint o sialens  - tebyg i gadw rheolaeth ar dimau rygbi!”

Fe fydd digon o gynulleidfa o’i gartre’ yn sioe Hosan Nadolig Nigel, gyda bysus o’i bentre’ ei hun, Mynyddcerrig ac o Lanelli ymysg y dorf yn stiwdios y BBC.

“I fi pobl Mynyddcerrig oedd sêr y flwyddyn. Roedd ymateb y gymuned i’r ffaith bod fi wed dyfarnu’r ffeinal yn wych. Roedd pobl ar draws y byd wedi ymateb yn synnu bod cymunedau mor glos yng Nghymru.  Mae’n profi bod y bobl sy’n dweud nad oes fath beth â chymdeithas yn anghywir.”

Mae hi wedi bod yn flwyddyn llawn profiadau newydd i Nigel. Yn ystod 2015, mae e wedi cyflawni’r goron driphlyg - sef dyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd, ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop a’r Guinness Pro12 i gyd o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd.

Mae’r dyfarnwr Undeb Rygbi Cymru, sydd hefyd yn un o ‘reng flaen’ cyflwynwyr y sioe Jonathan ar S4C, wedi parhau’n flaenllaw wrth ymladd rhagfarn yn erbyn pobl hoyw.

“Rwy’ mor falch bod y byd rygbi wedi dangos y ffordd wrth chwalu rhagfarnau, a rhoi lle i bobl hoyw yn y gamp.

“Ond mae sylwadau fel rhai'r bocsiwr Tyson Fury yn dangos bod tipyn o ffordd i fynd eto. Lleiafrif yw’r bobl â rhagfarn, ond mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod y lleiafrif yn mynd yn llai fyth.”

Mae Nigel hefyd yn credu bod rygbi wedi bod ar ei hennill, ac yn diolch i Gwpan Rygbi’r Byd am hynny.

“Rwy’n credu ein bod ni wedi adennill cynulleidfa a thynnu cenhedlaeth newydd i wylio a chwarae’r gêm. Os ydych chi ond yn mesur pethau yn ôl y maint o bobl sydd â diddordeb mewn bod yn ddyfarnwyr, mae e’n aruthrol. Mae bysus o bobl o bob oed wedi bod yn dod lan i Gaerdydd i gyrsiau hyfforddi,” meddai Nigel, fydd yn dyfarnu dwy gêm dros gyfnod y Nadolig, Scarlets v Gweilch ar Ddydd San Steffan a Treviso v Zebre ar 3 Ionawr 2016.

Ar ôl blwyddyn mor llwyddiannus yn 2015, beth sydd ganddo fel uchelgais ar gyfer 2016?

“Fel dyfarnwr, dw i wedi cyrraedd y brig, cadw'r safonau yw’r jobyn nawr a chadw mwynhau beth dw i'n ei wneud. Mae gallu chwerthin ar dy ben dy hunan yn bwysig, Ac rwyt ti’n ennill parch am hynny.”

Hosan Nadolig Nigel, Dydd Nadolig, 9.30pm, Cynhyrchiad Teledu Avanti ar gyfer S4C

Rhannu |