Teledu

RSS Icon
08 Rhagfyr 2015

Cyfle i fwynhau caneuon Alun Sbardun Huws

MEWN rhifyn arbennig o’r Stiwdio Gefn ar S4C, bydd rhai o enwau amlycaf cerddoriaeth Cymru yn perfformio detholiad o ganeuon cyfarwydd y cerddor a’r cyfansoddwr, Alun ‘Sbardun’ Huws. 

Yn y rhaglen, Y Stiwdio Gefn: Sbardun, nos Sadwrn, 12 Rhagfyr ar S4C, bydd Lisa Gwilym yn bwrw golwg yn ôl dros yrfa’r gitarydd o Benrhyndeudraeth a’r dylanwad a gafodd ar gerddorion ar hyd a lled Cymru, gyda chyfraniadau gan Bryn Fôn, Brigyn ac eraill.

Meddai Lisa Gwilym: “Yn amlwg, roedd Sbardun yn aelod o fandiau adnabyddus fel Tebot Piws, Ac Eraill a Mynediad am Ddim, ond beth oedd yn ddiddorol i fi oedd gweld yr ystod eang o gerddorion oedd o wedi ysgrifennu caneuon iddyn nhw, fel Bryn Fôn, Brigyn a Casi Wyn.

“Mae ‘perthyn’ a ‘bro’ yn themâu amlwg yn ei ganeuon.

“Mae’r gân Strydoedd Aberstalwm yn deyrnged at ei gartre’, Penrhyndeudraeth, ac erbyn hyn mae’r gân yn cael ei ystyried fel un o’r pwysicaf yn hanes cerddoriaeth Gymraeg.”

Yn aelod o un o fandiau arloesol y 1970au, Tebot Piws, cafodd Sbardun, ei ystyried yn un o gerddorion mwyaf creadigol y wlad.

Fel perfformiwr a chyd-gyfansoddwr yr opera roc Nia Ben Aur ym 1974, chwaraeodd Sbardun ran hollbwysig yn hanes un o sioeau cerdd enwocaf Cymru.

Un o gyfansoddwyr eraill Nia Ben Aur, Cleif Harpwood, yw cynhyrchydd Y Stiwdio Gefn.

Meddai Cleif: “Roedd creu’r sioe yn fraint ac yn bleser. Mi wnes i gyfarfod Sbardun am y tro cyntaf ym 1970 tra’n ‘swog’ yng ngwersyll Llangrannog. Roedd yn gymeriad hoffus, llawn hiwmor. 

“Fe fuon ni’n cydweithio tipyn dros y blynyddoedd, fel cerddorion a hefyd ym myd teledu.

“Yn ogystal â’i ddawn fel cerddor, roedd Sbardun yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr penigamp. Roedd hefyd yn artist, yn ffotograffydd ac yn fardd.”

Ymysg y bandiau sy’n perfformio caneuon gwreiddiol Sbardun ar y rhaglen mae Bryn Fôn, Linda Griffiths, Brigyn, Magi Tudur a Cut Lloi. Un o uchafbwyntiau rhaglen bydd clywed Cowbois Rhos Botwnnog ac Osian Huw Williams o Candelas yn perfformio’r gân Lili’r Wyddfa yn gyhoeddus am y tro cyntaf; cân a gyfansoddwyd ar gyfer y Cowbois gan Sbardun ddwy flynedd yn ôl.

* Y Stiwdio Gefn: Sbardun, Nos Sadwrn 12 Rhagfyr 9.00, S4C. Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

Rhannu |