Teledu

RSS Icon
30 Tachwedd 2015

Mr Picton yn 'Viking?' Pwy fase'n credu?

Mae'r actor John Pierce Jones wedi credu erioed y gallai fod yn un o ddisgynyddion y Llychlynwyr – y Vikings – ddaeth i reoli rhannau o Gymru yn y nawfed ganrif.

Mae John o'r farn bod ganddo resymau da dros gredu hynny. Ar ochr ei fam mae'n dod o deulu o forwyr ac mae John ei hun wedi dysgu hwylio gyda'i ffrind Dilwyn Morgan yn Codi Hwyl fydd yn dychwelyd mewn cyfres newydd ar S4C yn 2016. Hefyd mae John, fu'n chwarae rôl yr anfarwol Mr Picton yng nghyfres gomedi S4C C'mon Midffild!, yn dioddef o Salwch y Llychlynwyr – Vikings’ Disease - salwch meinwe gyswllt sy'n effeithio ar rai o fysedd ei draed.

Yn rhaglen DNA Cymru - rhan o'r prosiect arloesol CymruDNAWales – ar S4C nos Sul, 6 Rhagfyr, mae John a'i deulu - ei wraig, yr Americanes, Inge Hanson a'u mab Iwan, 12 oed - yn derbyn canlyniadau eu profion DNA hynafiadol.

"Dwi wastad wedi teimlo 'mod i'n un o ddisgynyddion y Llychlynwyr. Mae 'na gysylltiad gyda Gogledd Ewrop yn sicr. Mi oedd y rhan fwya' o'r dynion ar ochr fy Mam yn forwyr, ei hewythr yn gapten llong, er enghraifft," meddai John, sy'n wreiddiol o Niwbwrch, Sir Fôn.

"Yn wyddonol, mae'n ddiddorol ffeindio allan o ble chi wedi dŵad, lle mae'ch genynnau chi, be' 'di pendraw eich bodolaeth chi, ond fel arall, yn athronyddol, be' ydw i a pwy ydw i? Wel, hogyn o Sir Fôn wedi cael ei fagu yn Sir Fôn, dyna ydw i," meddai John.

Ganwyd Iwan, y mab a fabwysiadwyd gan John ac Inge, yn Haiti. Mae profion DNA'n beth pwysig iddo fe.

"Mae ei ffrindiau ysgol yma yng Nghymru i gyd yn gwybod rhywbeth am eu hachau – o ble maen nhw wedi dod," meddai Inge, ei fam. "Ond does gan Iwan ddim sicrwydd am gefndir ei deulu yn Haiti. Fe all ddysgu unrhyw beth am yr hyn mae e wedi etifeddu oddi wrthyn nhw fod yn gysur iddo, heb os."

Ac nid y teulu Pierce Jones yw'r unig rai sydd ar drywydd ei achau. Mae saith o drigolion pentref Llangwm yn Ne Sir Benfro hefyd yn cael canlyniadau eu profion DNA hynafiadol yn y rhaglen.

Roedden nhw'n rhan o brosiect hanes lleol arbennig – Prosiect Llangwm - ddaeth i DNA Cymru i ofyn am help. Cred y saith dyn yw eu bod nhw, o bosib, yn ddisgynyddion y bobl ddaeth i'r pentref o Fflandrys yn y 12fed ganrif ac yn enwedig y teulu De La Roche. Oherwydd eu cysylltiad â'r Normaniaid a sefydlodd y pentref a chyda'u harweinydd, Gwilym Goncwerwr, bu'r Ffleminiaid yn ddylanwadol iawn yn yr ardal.

A yw unrhyw un o'r saith yn ddisgynyddion o aelod o'r teulu De La Roche sy'n gorwedd yn eglwys Normanaidd Llangwm? Mae'n rhaid i'r grŵp aros nes bod prif wyddonydd y prosiect, Dr Jim Wilson, yn rhoi'r canlyniadau i'r saith mewn digwyddiad arbennig yng Nghastell Penfro.

Fe ddaeth cysylltiad annisgwyl arall â chyfnod y Normaniaid i'r amlwg wrth ffilmio'r gyfres – a hynny ar aelwyd un o'r cyflwynwyr. Mae'r Dr Anwen Jones yn briod ag un o arwyr rygbi Cymru, Alun Wyn Jones. Mae Alun Wyn, sy'n dod o'r Mwmbwls, ger Abertawe yn wreiddiol, wedi ystyried ei hun yn Gymro i'r carn erioed.

Ond wrth dderbyn ei ganlyniad, mae Alun Wyn yn dod i ddeall ei fod e'n perthyn i 'glwstwr genynnol' - grŵp o ddynion sy'n rhannu'r un marciau DNA. Yn yr achos yma mae naws Normanaidd i'r clwstwr. Mae'n debygol i hen gyndadau Alun Wyn ddod i Gymru yn sgil concwest y Normaniaid yn 1066. Wrth glywed am y cysylltiad posib, dywedodd Alun Wyn,"Mae hynny'n egluro tipyn," gan gyfeirio at y ffaith bod ei dad yn dod yn wreiddiol o Fro Gŵyr - un o'r ardaloedd a ddaeth dan reolaeth y Normaniaid ar ôl y concwest.

Mae'r prosiect cyffrous CymruDNAWales yn bartneriaeth rhwng S4C, CymruDNAWales, Trinity Mirror - cyhoeddwyr y Western Mail a'r Daily Post – a'r cwmni cynhyrchu Green Bay Media.

Nod y prosiect yw cynnal yr arolwg fwyaf o'r DNA hynafiadol sy'n bresennol ym mhoblogaeth Cymru. Gwneir hyn drwy brawf poer. Mae'r gyfres hefyd yn defnyddio DNA hynafiadol i geisio ateb rhai cwestiynau hanesyddol fel 'Pwy yw'r Cymry?' ac 'O ble y daethom ni?'

Yn y gyfres DNA Cymru mae'r cyflwynwyr Beti George, Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn egluro sut mae gwyddoniaeth DNA yn gallu datgelu glasbrint genetig yn ymestyn 'nôl tu hwnt i hanes cofnodedig. Mae'r gwylwyr yn cael eu gwahodd i ddilyn siwrnai dynolryw o'u gwreiddiau yn Affrica i drigolion cynharaf y wlad a adwaenir bellach fel Cymru hyd at ein hoes ni heddiw.

Meddai John Geraint o Green Bay Media, golygydd y gyfres, "Mae hon yn stori epig am daith pobl drwy hanes. Yn y gyfres, rydym yn datgelu gwybodaeth am achau genetig eiconau Cymreig go iawn wrth ddilyn stori ryfeddol y Cymry, pwy ydym ni ac o ble y daethom."

Am fwy o fanylion am y prosiect CymruDNAWales, ewch i safle'r gyfres, s4c.cymru/cymrudnawales

DNA Cymru

Nos Sul 6 Rhagfyr 8.00, S4C

Hefyd, dydd Gwener 11 Rhagfyr 3.00, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Green Bay Media ar gyfer S4C


 

Rhannu |