Teledu
Beti’n Gymraes i’r carn – mae yn ei DNA
Mae ymchwil newydd gan y prosiect arloesol CymruDNAWales wedi rhoi sbin newydd i’r ddelwedd draddodiadol o’r Fam Gymreig fel mae’n cael ei phortreadu mewn nofelau poblogaidd a ffilmiau Hollywood fel ‘How Green Was My Valley.’
Mae CymruDNAWales - partneriaeth rhwng S4C, CymruDNAWales, Trinity Mirror, a'r cwmni cynhyrchu Green Bay Media - wedi darganfod fod llawer o Famau Cymreig yn cario trysor pur anarferol wedi ei gloi yn eu genynnau.
Datgelwyd y darganfyddiad wrth i S4C baratoi i ddarlledu’r rhaglen gyntaf mewn cyfres bwysig newydd DNA Cymru. Gan ddechrau neithiwr, 22 Tachwedd, mae’r gyfres wedi ei seilio ar ganlyniadau profion CymruDNAWales ac ymchwil hanesyddol gwreiddiol gan y cynhyrchwyr Green Bay Media.
Mae gwragedd yn trosglwyddo darn bach o’i DNA – DNA’r mitocondriaidd (mtDNA) sy’n cario gwybodaeth am ein hen, hen hanes - i’w plant. Mae’r dadansoddiad newydd hwn gan CymruDNAWales yn dangos fod tua 6.5% o boblogaeth Cymru yn cario amrywiadau nodedig o mtDNA, yn deillio o nifer fach o famau yn ein cynhanes diweddar - patrwm o’n llinach sydd ddim yn amlwg yn ein cymdogion agos.
Meddai Alistair Moffat, Cyfarwyddwr CymruDNAWales, "Mae’r hyn mae’n dadansoddiad yn datgelu yn rhywbeth diddorol - nifer o glystyrau genynnol. Roedd grŵp bach o wragedd a fu’n byw rywbryd rhwng 2,000 a 5,000 o flynyddoedd yn ôl yn fatriarchiaid - llinach cynfamau nifer fawr o bobl Gymreig.
“Ac oherwydd nad yw’r marciau mtDNA arbennig hyn wedi eu gweld yn Iwerddon ac yn anaml iawn yn unig yn Lloegr, Yr Alban a gweddill Ewrop, mae’r llinachau hyn yn pwyntio at gymunedau a oedd efallai yn wahanol am amser hir iawn ac wedi eu hynysu o weddill Prydain ac Iwerddon."
Ac mewn cyd-ddigwyddiad hapus, darganfuwyd bod un o gyflwynwyr cyfres DNA Cymru, y darlledwr nodedig, Beti George yn cario marciau genynnol un o’r llinachau hyn. Mae canlyniadau ei phrofion yn dangos ei bod yn olynydd uniongyrchol o un o’r matriarchiaid hyn.
Meddai Beti: "Dwi wedi teimlo’n Gymraes erioed a dim arall, ac efallai bod y darganfyddiad yma’n cadarnhau hynny. Mae’r Fam Gymreig yn rhan amlwg o’n diwylliant – ac mi oedd hi, ac y mae hi o hyd, yn gymeriad cryf iawn. Dwi wedi etifeddu’n mtDNA wrth fy Mam, a hi oedd yn dal y teulu da’i gilydd. Hi oedd y bos ac yn stampio’u hawdurdod dros fy Nhad.
“Roedd e’n fwy tyner, ond hi oedd y disgyblwr ac yn hunanaberthol. Yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, fe barodd y dogni – y rations – am dipyn o amser ac mi fydde hi bob amser yn bwyta margarîn gan roi’r menyn i ni’r plant. Roedd hi’n gweithio’n galed ac yn gogydd yn yr ysgol leol.
“Roedd y Fam Gymreig yn ffigwr llywodraethol - mae dynion bob amser yn siarad am eu Mamau. Rwy’n cofio gwraig o’r enw Mrs Mainwaring a oedd a’i mab yn chwarae rygbi i Aberafan, a phan oedd hi yn y stand doedd hi ddim yn dal nôl wrth waeddi ar y dyfarnwr. Mae’r sêr sy’n chwarae heddiw yn dal i ymostwng i’w Mamau. Ac mae hynny mond yn iawn!”
Nod y prosiect CymruDNAWales yw cynnal yr arolwg fwyaf o'r DNA hynafiadol sy ym mhoblogaeth Cymru heddiw. Gwneir hyn drwy brawf poer. Bydd y gyfres hefyd yn defnyddio DNA hynafiadol i geisio ateb rhai cwestiynau hanesyddol fel 'Pwy yw'r Cymry?' ac 'O Ble y daethom ni?'
Yn y gyfres DNA Cymru Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn ymuno â Beti George wrth iddyn nhw ddefnyddio’r ddirnadaeth unigryw sy’n dod o’r profion DNA i olrhain ein stori nol ymhell tu hwnt i gyfyngiadau hanes ysgrifenedig.
Am fwy o fanylion am y prosiect CymruDNAWales, ewch i safle'r gyfres, s4c.cymru/cymrudnawales
DNA Cymru
Nos Sul 22 Tachwedd 8.00, S4C
Hefyd, dydd Gwener 27 Tachwedd 3.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Green Bay Media ar gyfer S4C