Teledu

RSS Icon
18 Tachwedd 2015

Dilyn ôl troed y ffotograffydd rhyfel Philip Jones Griffiths i Fietnam

Bydd partneriaeth arloesol rhwng sectorau cyfryngau Cymru a De Corea yn cymryd cam ymlaen yr wythnos hon (Tachwedd 16 2015 ymlaen) wrth i ffilmio ddechrau yn Fietnam ar gyd-gynhyrchiad fydd yn dilyn stori ffotograffydd rhyfel enwocaf Cymru.

Mae Rondo Media yn gweithio gyda JTV, un o ddarlledwyr cyhoeddus De Corea, i gynhyrchu rhaglen ddogfen arbennig am un o ffotograffwyr rhyfel amlycaf a mwyaf dylanwadol hanes - y Cymro Philip Jones Griffiths. Cyfrannodd lluniau pwerus a dirdynnol y ffotograffydd o Ruddlan, Sir y Fflint, nid yn unig at ddod â diwedd Rhyfel Fietnam yn nes, ond hefyd i newid y ffordd y byddai’r byd yn gweld ac yn gohebu ar ryfel o hynny ymlaen. 

Bydd y tîm cynhyrchu yn teithio o Gaerdydd i Fietnam gyda'r cyflwynydd a gohebydd BBC Wyre Davies, i ddechrau ffilmio'r rhaglen a fydd yn cael ei darlledu yng Nghymru, De Corea ac yn rhyngwladol y flwyddyn nesaf - hanner can mlynedd ers i Philip Jones Griffiths ymweld â Fietnam am y tro cyntaf a 80 mlynedd  ers ei eni.  Ymhlith cyfranwyr y rhaglen mae teulu'r ffotograffydd a ffrindiau a chyd-weithwyr amlwg megis John Pilger, Don McCullin a Noam Chomsky.

Rondo Media yw un o'r cwmnïau cyntaf yng Nghymru i gydweithio gyda darlledwyr De Corea sy'n awyddus iawn i elwa o brofiad a chreadigrwydd cwmnïau teledu o Brydain. Bu cyd-gynhyrchiad cyntaf Rondo Media a JTV yn hynod o lwyddiannus gyda 5 miliwn o bobl yng Nghorea yn gwylio rhaglen John Hardy : Cofio Rhyfel Corea wrth i'r darlledwr ddilyn hanes ei dad yn ystod Rhyfel Corea. Yn sgil llwyddiant y cyd-gynhyrchiad cyntaf yma, aeth y ddau gwmni ati i chwilio am gyfleodd eraill i gydweithio.

Roedd y cynhyrchiad hwn yn rhan o dymor o raglenni ar S4C a oedd yn cynnwys dau gyd-gynhyrchiad arall gyda’r darlledwr JTV.

Caryl Ebenezer, cynhyrchydd gyda Rondo Media ac enillydd gwobrau BAFTA am ei rhaglenni dogfen, yw'r un fu'n bennaf gyfrifol am ddatblygu'r berthynas agos gyda'r cynhyrchwyr Coreaidd. Bydd hi'n teithio i Fietnam yr wythnos yma (Tachwedd 16, 2015) i gyfarwyddo'r cyd-gynhyrchiad nesaf. Meddai;

“Roedd y profiad o gydweithio gyda JTV yn Ne Corea ar raglen John Hardy : Cofio Rhyfel Corea yn un arbennig.  Roedd y ddwy ffynhonnell incwm yn golygu bod modd creu rhaglen ddogfen o’r safon uchaf i wylwyr Cymru a De Corea.  Roedd y cyd-weithio creadigol clos yn sicrhau ein bod yn cael mynediad i’r straeon gorau yn y ddwy wlad, a hefyd yn ein galluogi i fod yn sensitif i ofynion y gwylwyr adre ac yn Ne Corea.

"Mae'n wych nawr gallu adeiladu ar y berthynas gyda’n partneriaid o Dde Corea wrth i ni gydweithio ar stori'r ffotograffydd rhyfel o Gymru, Philip Jones Griffiths ac effaith y lluniau dirdynnol a dynnodd yn ystod rhyfel Fietnam."

Dywedodd Hee Do Jeong, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr gyda JTV;

"Roedd nifer y milwyr yn Fietnam o Dde Corea yn ail yn unig i Lu Milwrol yr Unol Daleithiau. Gan ei fod yn 40 mlynedd ers diwedd Rhyfel Fietnam, rydym yn awyddus i atgoffa pobl am effeithiau rhyfel a dod o hyd i heddwch. Mae'r DU wedi cefnogi’r Chwyldro Diwydiannol ac yn awr mae'n arwain y farchnad fyd-eang ym mhob maes. Nôd JTV yw i gyd- gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel gyda chynhyrchwyr rhagorol yn y DU a chreu cynnwys darlledu newydd drwy rwydweithiau dosbarthu amrywiol. Rydym wrthi'n gweithio gydag S4C a Rondo Media ac maent yn bartneriaid pwysig iawn yn y prosiect hwn."

Yn ôl Prif Weithredwr Rondo Media, Gareth Williams, mae cwmnïau o Gymru ar eu hennill o gydweithio gyda darlledwyr rhyngwladol; 

“Mae’r ethos o gyd-gynhyrchu yn un holl bwysig i Rondo Media. Wrth gyd-gynhyrchu gallwn godi safon yr hyn rydym yn ei gynnig drwy rannu syniadau, adnoddau, technegau a sgiliau dweud stori. Mae denu buddsoddiad o’r tu allan i Gymru hefyd, i sicrhau mwy nag un ffynhonnell incwm, yn fwyfwy allweddol er mwyn parhau i gynhyrchu rhaglenni safonol. 

“Does dim amheuaeth fod cynyrchiadau rhyngwladol yn hollbwysig wrth gyflwyno enw Rondo Media fel cwmni cynhyrchu ac S4C fel darlledwr i gynulleidfa a marchnadoedd ehangach - mae’n galluogi’r cynnwys i gael ei weld gan filiynau o wylwyr ar draws y byd ac mae’n creu perthnasau sy’n werthfawr wrth geisio sicrhau cyd-gynyrchiadau eraill."

Rhannu |