Teledu

RSS Icon
17 Tachwedd 2015

Pobol y Cwm yn ennill gwobr Mind ar gyfer y Cyfryngau

Mae Pobol y Cwm, cyfres ddrama Gymraeg BBC Cymru Wales, wedi dod i’r brig yng ngwobrau Mind ar gyfer y Cyfryngau yn y categori operau sebon.

Derbyniwyd y wobr am bortread o anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) Iolo White, sy'n cael ei chwarae gan yr actor Dyfan Rees. Mae Iolo'n datblygu symptomau anhwylder obsesiynol cymhellol, ac mae'n ceisio cuddio hynny oddi wrth ei deulu a'i ffrindiau. Ond wrth i'w gyflwr waethygu, mae mewn perygl o golli ei gartref a'i swydd, ac mae'n rhaid iddo dderbyn bod angen help arno.

Mae Gwobrau Mind ar gyfer y Cyfryngau'n dathlu'r enghreifftiau gorau o adrodd am iechyd meddwl a phortreadu iechyd meddwl ar y cyfryngau print, darlledu a digidol, gan gynnwys rhaglenni dogfen a drama ar y radio a'r teledu, y cyfryngau ar gyfer pobl ifanc, y newyddion ac operâu sebon.

Dyma'r ail dro i opera sebon teledu hiraf y BBC ennill y wobr. Yn 2009, enillodd y gyfres y wobr am bortread mam sengl o iselder ar ôl geni.

Mae Llyr Morus, Cynhyrchydd y Gyfres ar gyfer Pobol y Cwm, yn dweud bod ennill yn anrhydedd enfawr: “Mae hi’n bwysig i ni fel cyfres ddarlunio profiadau go iawn, profiadau sy’n berthnasol i’n cynulleidfa, a phrofiadau y gall ein cynulleidfa uniaethu â hwy. Mae cael ein cydnabod am hynny ochr yn ochr ac operau sebon eraill sydd ar y brig ym Mhrydain yn glod i’r gwaith anhygoel mae awduron, actorion ac adrannau golygyddol a chynhyrchu’r gyfres wedi gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf”

Ychwanega Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg y BBC: "Mae'n wych gweld cyfres fel Pobol y Cwm yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol unwaith eto am adlewyrchu storïau yn ymwneud a phroblemau iechyd meddwl. Mae'n hollbwysig bod cyfresi o'r fath yn delio gyda phynciau a storïau anodd fel hyn sydd yn gyffredin o fewn cymdeithas”.

Ychwanega Gwawr Martha Lloyd Comisiynydd Drama yn S4C: “Mae Pobol y Cwm wedi llwyddo i greu stori afaelgar a thynnu sylw at iechyd meddwl mewn ffordd ddidwyll a gonest. Mae’n deyrnged i’r actor Dyfan Rees sy’n chwarae rhan y cymeriad sensitif, hoffus, Iolo White ac yn deyrnged i’r tîm cynhyrchu am y sgript, saernïaeth a gwerthoedd cynhyrchu uchel.”

Mae Pobol y Cwm ar S4C am 8pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener.

Gall gwylwyr ddal i fyny â'r rhaglen ar-lein ar BBC iPlayer

Llun: Dyfan Rees sy'n chwarae rhan Iolo White

Rhannu |