Teledu

RSS Icon
22 Hydref 2015

Naws gerddorol i nos Sadwrn gyda Gwawr ar daith gofiadwy

Mae'r soprano Gwawr Edwards yn hen gyfarwydd â theithio i America i ganu mewn gwyliau a chyngherddau – mae hi wedi gwneud hynny ers yn 11 mlwydd oed. Ond roedd y daith wnaeth hi ym mis Medi eleni i Columbus, Ohio yn wahanol iawn i'r holl rai blaenorol.

Aeth Gwawr, sy'n wreiddiol o Fethania, Ceredigion, yno ar wahoddiad Gŵyl Cymry Gogledd America a bu'n perfformio yn y seremoni agoriadol, mewn cyngerdd a dwy gymanfa ganu yn ystod pedwar diwrnod yr ŵyl. Ond bu hefyd yn ymweld ag aelodau o'i theulu sydd wedi ymgartrefu yn Ohio ers blynyddoedd maith.

Yn y rhaglen Gwawr Edwards yn Ohio ar S4C nos Sadwrn, 31 Hydref bydd cyfle i ymuno â Gwawr wrth iddi berfformio yn yr ŵyl ac wrth iddi hi, ei gŵr Dan a'u merch fach chwe mis oed, Nel, alw heibio i weld nifer o berthnasau'r teulu Edwards yn Ohio.

Bydd nos Sadwrn hefyd yn cynnwys rhaglen uchafbwyntiau o un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol eleni - Eisteddfod 2015: Seiniau'r Sgrin - gan roi thema gerddorol i'r noson ar S4C.

"Ein hamser yn Ohio oedd gwibdaith orau fy mywyd," meddai Gwawr Edwards. "Roeddwn i wedi ymweld ag aelodau'r teulu yn Ohio o’r blaen ond dim ers 10 mlynedd. Bryd hynny, doedd yr ymweliad ddim wedi creu’r un argraff ond y tro hwn, a finnau'n briod ac yn fam, roedd yr holl beth yn fwy emosiynol ac yn golygu llawer mwy. Roedd mynd â Nel mas i gwrdd â'r teulu yn brofiad arbennig iawn."

Tad Gwawr, y tenor Dafydd Edwards, agorodd Ŵyl Cymry Gogledd America 2015 yn swyddogol a bu aelod arall o'r teulu Menna Edwards-Griffiths, chwaer Gwawr, yn cyfeilio i'w chwaer a'i thad.

Meddai Gwawr sy'n adnabyddus ym myd opera ac mewn cyngherddau yn rhai o brif ganolfannau Cymru, Prydain a thramor, "Ymfudodd nifer sylweddol o'r teulu i America yn yr 1800au fel llawer o Gymry eraill gan hwylio o Aberaeron i Lerpwl ac wedyn i Ohio.

"Erbyn heddiw mae llawer ohonyn nhw wedi gwasgaru ar draws America ond mae nifer yn dal yn Ohio. Mae'n dalaith wledig hyfryd. Buaswn i'n hapus iawn mynd i fyw yno ond dwi'n rhy hoff o Gymru i wneud hynny."

Yn y rhaglen mae'r hanesydd, y diweddar Dr John Davies yn egluro'r rhesymau am yr holl ymfudo o Geredigion i Ohio ac ardaloedd eraill o America yn yr 1800au a hynny trwy archif o'r rhaglen Cymry Ohio.

Meddai Sioned Geraint, cynhyrchydd Gwawr Edwards yn Ohio o gwmni Tinopolis: "Petasai un arall o'r teulu Edwards wedi ymuno â'r ymfudwyr, mae'n bur debyg na fuasai Dafydd Edwards a'i deulu ar ôl yng Ngheredigion heddiw gymaint oedd maint y llif."

Ymhlith aelodau'r teulu Edwards yn Ohio daeth rhai yn amlwg yn eu maes gan gynnwys y pedwarawd cerddorol The Edwards Sisters Quartette a pherthynas arall, Bob Evans, a sefydlodd y cwmni, Bob Evans Restaurants, sy'n dal yn boblogaidd yn America.

Mae Gwawr wedi rhyddhau ei hail chryno ddisg Alleluia y mis hwn, yn cynnwys caneuon clasurol, eitemau ysgafn a chaneuon traddodiadol Cymraeg.

Yn Eisteddfod 2015: Seiniau'r Sgrin bydd cyfle i fwynhau un o gyngherddau mawr Eisteddfod Maldwyn a rhai o glasuron y sgrin fawr a'r sgrin fach. Mae John Owen-Jones, Côr CF1, Luke McCall a Rhian Lois yn ymuno â Cherddorfa John Quirk i'n harwain i fyd y ffilmiau a theledu gyda cherddoriaeth gofiadwy sy'n sicr o hudo'r gynulleidfa.

Eisteddfod 2015: Seiniau'r Sgrin, Nos Sadwrn 31 Hydref, 7.30, S4C, Gwefan: s4c.cymru Cynhyrchiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyfer S4C

Gwawr Edwards yn Ohio, Nos Sadwrn 31 Hydref, 9.00, S4C, Isdeitlau Saesneg, Gwefan: s4c.cymru  Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

 

Llun: Gwawr a Nel

Rhannu |