Teledu
Cyfle i glywed stori DNA Cymru
Darganfod ein gwreiddiau fydd testun noson arbennig sy'n cael ei chynnal fel rhan o brosiect CymruDNAWales yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd nos Iau 22 Hydref.
Bydd noson 'Rheswm mewn Rhigwm' yn cael ei llwyfannu fis yn union cyn i S4C lansio cyfres arloesol DNA Cymru a fydd yn egluro sut mae gwyddoniaeth DNA yn gallu datgelu glasbrint genetig yn ymestyn nôl tu hwnt i hanes cofnodedig.
Nod y prosiect CymruDNAWales yw cynnal yr arolwg mwyaf o'r DNA hynafiadol sy'n bresennol ym mhoblogaeth Cymru drwy brawf poer. Bydd y gyfres yn defnyddio DNA hynafiadol i geisio ateb cwestiynau hanesyddol fel 'Pwy ydy'r Cymry?' ac 'O ble ydym ni'n dod?' drwy ddefnyddio samplau DNA gan bobl Cymru heddiw.
Bydd cyfle i weld clipiau o'r gyfres yn noson 'Rheswm mewn Rhigwm' a bydd golygydd y gyfres John Geraint a'r cynhyrchydd Wynford Jones o Green Bay Media ymhlith y siaradwyr yn ogystal â'r hanesydd a'r awdur, Alistair Moffat, Rheolwr Gyfarwyddwr ScotlandsDNA. Bydd y darlledwr, Roy Noble, sydd wedi cymryd prawf DNA fel rhan o'r prosiect, hefyd yn un o'r cyfranwyr.
Beti George, un o gyflwynwyr y gyfres DNA Cymru gyda Jason Mohammad a Dr Anwen Jones, fydd yn llywio'r noson a bydd Aneirin Karadog a Mari George yn rhoi perfformiadau barddonol a'r ddeuawd gwerin DnA yn cyflwyno eitemau cerddorol. Ymhlith yr elfennau rhyngweithiol bydd Aneirin Karadog yn cynnal gweithdy barddoniaeth ddwyieithog gyda phlant ysgolion lleol.
Mae'r noson a gynhelir ar Lwyfan y Lanfa yn cael ei threfnu gan Ganolfan Mileniwm Cymru, sefydliad barddonol H'mm, CymruDNAWales, S4C a Green Bay Media.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 5.30 ac yn para tan 7.00 o'r gloch.
Meddai John Geraint, golygydd y gyfres DNA Cymru, "Bydd y noson yn gyfle arbennig i bobl o bob oedran glywed am y datblygiadau cyffrous sy'n digwydd fel rhan o CymruDNAWales ac i gymryd rhan yn y prosiect.
"Thema’r noson fydd ein DNA a byddwn yn egluro sut mae'r prosiect unigryw hwn yn cynnig dealltwriaeth o'n hanes a'r dylanwadau allanol sydd wedi creu'r Gymru sy'n bod heddiw."
Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng S4C, CymruDNAWales, Trinity Mirror a'r cwmni cynhyrchu Green Bay Media. Bydd y gyfres DNA Cymru yn cael ei darlledu ar S4C o nos Sul 22 Tachwedd am 8.00 o'r gloch.
Llun: ?Beti George, Jason Mohammad a Dr Anwen Jones