Teledu

RSS Icon
16 Hydref 2015

Lan a Lawr yn dangos ei bod hi byth ar ben

Wrth i'r gyfres Lan a Lawr, y ddrama deulu afaelgar a theimladwy, barhau ar S4C bob nos Fercher, mae un cwpl direidus yn y ddrama'n mwynhau bywyd i'r eithaf.

Mae Heulwen Haf yn 71 mlwydd oed ac yn chwarae rhan yr artist ecsentrig, Magda. Yn ystod y gyfres mae'r gwylwyr wedi gweld ei pherthynas hi a Cledwyn, sy'n cael ei chwarae gan John Ogwen, sydd hefyd yn 71, yn blaguro.

Meddai Heulwen Haf ei bod hi'n bleser chwarae cymeriad fel Magda a bod y straeon sydd wedi cael eu sgwennu ar gyfer ei chymeriad yn well byth.

"Dwi wrth fy modd hefo hi," meddai Heulwen. "A dwi'n meddwl 'mod i'n ffitio'n well yn esgidiau Magda na wnes i hefo'r un cymeriad erioed! Ond mae'r cyfan oll wedi cael ei blethu gyda'i gilydd yn berffaith – ac mae'r ffordd mae'r cymeriadau hŷn yn cael rhannau mor ddoniol, a da, a sexy yn dangos ei bod hi byth ar ben arnat ti.

"Wedi'r cwbl, tydi bywyd ddim yn stopio pan wyt ti ar dy bensiwn ac mae cymryd ffansi at rywun arall yn beth iach ac mae'n hyfryd cael gweld hynny ar y sgrin."

Cafodd Heulwen ei magu yng Nghorwen ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi ar ben ei digon y dyddiau yma – yn wahanol iawn i sut roedd pethau yn 2009 pan wnaeth hi wahodd y camerâu i'w bywyd wrth iddi frwydro yn erbyn cancr y fron.

Roedd y rhaglen Blodyn Haul yn dangos Heulwen yn wynebu triniaethau radiotherapi a chemotherapi ac yn cael llawdriniaeth i dynnu bron gyda'r fath ddewrder ac ysbryd heriol, nes ei bod hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer.

"Mae pethau'n fendigedig rŵan," esbonia Heulwen. "Bron yn berffaith ym mhob ystyr. Ond roedd y ffaith 'mod i wedi dod trwy'r halibalŵ ac yna bod y cwmni cynhyrchu wedi rhoi ffydd i mi fynd ymlaen i actio eto'n wych."

Yn wir, mae Heulwen, sydd wedi actio ar Pobol y Cwm ac sydd hefyd yn gweithio fel therapydd amgen, yn teimlo bod ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai Heulwen,"Tydi o'n beth rhyfedd? Ges i ran mewn ffilm fer, Fi a Miss World yn dilyn y cyfnod hwnnw, ac ar liwt honna ges i ran yn Casualty ac wedyn daeth Magda. Mae'r rhannau yma wedi dangos i mi fod 'na fywyd ar ôl cancr."

Ond beth sydd nesa' i Heulwen Haf? "Be nesa'? Hollywood?," meddai gan chwerthin. "Na, does gen i ddim byd ar y gweill ar hyn o bryd ond dwi'n fythol obeithiol y bydd pethau'n codi eto."

Lan a Lawr

Nos Fercher 28 Hydref 8.30, S4C

Hefyd nos Sadwrn 31 Hydref 10.00, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

 

Rhannu |