Teledu
O'r groth i'r crud: S4C yn dilyn taith beichiogrwydd
Bydd S4C yn dangos holl gyffro a drama geni babanod dros yr wythnosau nesaf. Bydd cyfres Babi Del, sy'n dechrau nos Fawrth, 27 Hydref yn dilyn teuluoedd yn profi'r holl emosiynau sydd ynghlwm â beichiogi a chroesawu babi newydd i'r byd. Cawn ddilyn y teuluoedd yn ystod wythnosau olaf y beichiogi a chlywed gwaedd gyntaf y babanod yn cyfarch mam a dad.
Elan Aran Roberts, o Gaernarfon fydd y babi cyntaf i ni gyfarfod yn Babi Del. Bu beichiogi yn dipyn o siwrnai i rieni Elan, Anna, 33 o Lanuwchllyn a Cai, 42 o Gaernarfon - wedi dros flwyddyn o geisio am fabi, profodd eu hymdrechion yn ofer.
"Mi ddechreuon ni drio am fabi ar ôl priodi, ond doedd 'na ddim byd yn digwydd, a ro'n i wedi mwy neu lai rhoi give up. Ac oherwydd hynny mi benderfynon ni fynd i deithio, ac mi ga'th Cai job yn Bogotá, Colombia fel Pennaeth Adran Chwaraeon mewn ysgol. Pum wythnos ar ôl hynny mi es i i brofi'n ofaris, i weld a oedden nhw'n gweithio, ac mi ddywedon nhw wrtha i yn fan 'na, maen nhw'n gweithio'n iawn, mae 'na fabi yna! Ges i sioc, ac mi ro'n i'n crynu!" meddai Anna, briododd Cai ym Mhlas Isa, Corwen yn 2013.
"Mae gen i gymaint o ffrindiau sydd yn stryglo i gael babi, a dwi'n trio dweud wrthyn nhw i beidio â stressio achos wnaeth o ddim digwydd. Unwaith i mi stopio poeni a newid ffocws, mi wnes i syrthio'n feichiog," meddai Anna wnaeth gyfarfod Cai yn y gampfa dair blynedd yn ôl.
Penderfynodd Anna a Cai fwrw ymlaen â'r daith i Bogotá, ac yn fuan bydd Anna yn ymuno â Cai sydd wedi symud i'r wlad yn Ne America ers ychydig wythnosau. Ac mae Cai yn credu mai dyna'r penderfyniad cywir.
"Bydd o'n brofiad gwych i Elan, bydd hi'n cael ei sbwylio, fydd Anna ddim yn gweithio, ac mi fydd gynnon ni apartment neis. Mae 'na ffordd o fyw ffantastig allan yna, " meddai Cai, sydd wedi byw mewn sawl gwlad yn y gorffennol yn cynnwys Dubai.
"Dwi'n bennaeth ar 17 o athrawon adran addysg gorfforol mewn ysgol breifat. Mae 'na 2,000 o ddisgyblion yno i gyd yn dod o deuluoedd cyfoethog. Mae 'na dipyn mwy na fy ysgol ddiwetha'. 300 oedd yn Ysgol y Gader, Dolgellau,"
Mae Anna a Cai wedi derbyn ymatebion cymysg i'r symud gan deulu a ffrindiau yn ôl Anna, sy'n gobeithio dychwelyd i Gymru mewn ychydig flynyddoedd i Elan dderbyn addysg Gymraeg.
"Mae lot o ffrindiau a theulu yn meddwl ein bod ni'n nuts, ond mae 'na lawer yn meddwl ein bod ni'n warriars hefyd! Ond dyna 'da ni'n licio'i wneud, ydy trafeilio," meddai Anna, sydd wedi rhoi'r gorau i'w swydd ym Mhrifysgol Bangor.
Byddwn yn dilyn pob cam o siwrnai Elan i'r byd a chael cip ohoni'n cael ei geni. Doedd hi ddim yn enedigaeth hawdd i Anna. Er ei bod yn awyddus i roi genedigaeth naturiol, derbyniodd y newydd y byddai'n rhaid iddi gael caesarian gan fod y babi yn gorwedd y ffordd anghywir.
"Ro'n ni'n nerfus am y syniad o gael fy ffilmio ar y dechrau a ddim yn siŵr sut fasa fo'n cael ei bortreadu ar y teledu. Roedd yr enedigaeth yn brofiad swreal a ro'n i'n teimlo 'mod i ar blaned arall. Ond roedd hi'n bwysig i ni ffilmio'r achlysur; roedden ni eisiau i Elan weld ei phrofiadau cynta' hi ar ffilm. Buan mae babis yn tyfu, ac roedden ni eisiau cadw'r atgofion, a rhannu'r stori efo hi."
Babi Del
Nos Fawrth 27 Hydref 8.25, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Chwarel ar gyfer S4C