Teledu
Trafod cwestiynau boddi Tryweryn
Mae gwleidydd amlwg, a mab y Gweinidog dros Faterion Cymreig a gymerodd ddeddfwriaeth ar gyfer boddi Cwm Tryweryn drwy'r Senedd ar ddiwedd y 1950au, wedi cyfaddef y dylid gofyn cwestiynau am y ffordd y gwnaeth llywodraeth y dydd drin y sefyllfa.
Cafodd Henry Brooke ei benodi yn Weinidog dros Faterion Cymreig ar ddechrau 1957 ac roedd ei bortffolio yn cynnwys tai a llywodraeth leol, yn ogystal â Chymru. Cafodd ei fab, yr Arglwydd Peter Brooke, ei wneud yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ogledd Iwerddon yn ddiweddarach ym 1989.
Mae’r Arglwydd Peter Brooke yn gwneud y sylwadau mewn rhaglen ddogfen newydd, Tryweryn: 50 Years On, sydd i’w darlledu 50 mlynedd ers agoriad swyddogol y gronfa ddŵr.
“Wrth gwrs gallaf weld mai’r rhai oedd yn cael budd o Fesur Tryweryn mewn gwirionedd oedd y rhai hynny tu allan i Gymru," meddai yr Arglwydd Brooke, “ond yr oedd yn amlwg hefyd bod angen datrys problem cyflenwad dŵr Lerpwl rhywsut. Yr hyn y gellid ac mae’n debyg y dylid ailedrych arno yw a oedd y modd y cafodd ei gyflawni yn rhy ymerodrol.”
Mae Brooke hefyd yn mynd ymlaen i ddweud bod prosiectau buddsoddi mawr yng Nghymru, gan gynnwys gwaith dur Llanwern, wedi digwydd yn sgil Tryweryn.
Yng Nghorffennaf 1957 derbyniodd y Mesur ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin, ac fe’i basiwyd o 166 pleidlais i 117. Fodd bynnag, ni bleidleisiodd unrhyw un o’r 36 AS Cymreig o blaid y Mesur. Tra bod 24 wedi pleidleisio yn ei erbyn, fe wnaeth y gweddill naill ai ymatal neu nid oeddent yn bresennol.
Wedi’i ysgrifennu gan a’i gyflwyno gan yr hanesydd Wyn Thomas, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys rhai o'r bobl a oedd yn byw yn y cwm fel plant. Cafodd eu bywydau eu newid am byth pan foddwyd eu pentref, Capel Celyn.
Cafwyd aduniad o’r cyn-ddisgyblion yn ddiweddar wrth y gronfa ddŵr ar gyfer rhaglen BBC Radio Cymru ac er mwyn ail-greu’r llun olaf a gymerwyd ohonynt yn ysgol y pentref - mae fideo o’r aduniad hwn hefyd i’w weld yn y rhaglen ddogfen deledu.
Dim ond tair blwydd oed oedd Eurgain Prysor pan aeth holl drigolion Capel Celyn i Lerpwl pan gynhaliwyd cyfarfod o gyngor y ddinas. Y gobaith oedd tynnu sylw at eu sefyllfa ac roeddent yn cario baneri gyda sloganau megis “Your homes are safe, save ours” a “Do not drown our homes”, ond chawson nhw fawr o groeso.
“Roedd y croeso gawsom yn ofnadwy,” meddai Prysor. “Roedd pobl yn poeri atom ac yn taflu tomatos wedi pydru, ac roedd yn siom ofnadwy.”
Mae Prysor yn mynd ymlaen i egluro bod plant Cwm Celyn yn gorfod wynebu hyd yn oed rhagor o amseroedd caled wrth i’r gwaith o adeiladu’r gronfa ddŵr fynd yn ei flaen.
“Roedd pobl yn dod i weld y pentref cyn iddo gael ei foddi, ac roedden nhw’n dweud, 'o, druan ohonoch chi, mae’n ofnadwy, rydych chi'n mynd i golli’ch cartref, beth sy'n mynd i ddigwydd, ble ydych chi’n mynd i fyw?’
“Wel, i ni fel plant roedd yn gyfnod cythryblus iawn. Doedden ni ddim yn sylweddoli’n iawn beth oedd yn digwydd, ond roedden ni’n gwybod bod ein cartref yn mynd, bod ein capel yn mynd, bod ein hysgol yn mynd, bod ein ffrindiau yn symud i wahanol lefydd. Roedd yn gyfnod hynod o drist ac yn drawmatig iawn, ac rwy’n meddwl os byddai’n digwydd heddiw byddem wedi cael ein cwnsela ar gyfer trawma.”
Wrth i’r gwaith adeiladu barhau, daeth Tryweryn yn symbol o ddiffyg grym Cymru ac roedd teimlad bod angen i rywbeth gael ei wneud i ddangos y dicter a deimlwyd gan lawer. Mae’r rhaglen yn edrych ar y cynnydd yn y gwrthwynebiad mwy milwriaethus - o leiaf yn y tymor byr. Ar Medi 22, 1962, penderfynodd David Pritchard a David Walters, dau o Went nad oedden nhw’n siarad Cymraeg, gymryd materion i’w dwylo eu hunain a difrodi offer ar y safle. Am hyn cawsant eu harestio a’u dirwyo £50 yr un.
Yna, ar Chwefror 10, 1963, aeth Emyr Llewelyn Jones, Owain Williams a John Albert Jones â phethau gam ymhellach. Gosodwyd dyfais ffrwydrol ar offer trydanol ar y safle adeiladu ac fe achoswyd niwed difrifol.
Cafodd Llewelyn a Williams eu carcharu am 12 mis a rhoddwyd Jones ar brawf am dair blynedd.
“Cafodd y ffrwydriad effaith pellgyrhaeddol ar Gymru”, meddai’r cyflwynydd Wyn Thomas, “a talodd y tri dyn y pris am y weithred. Ond fe wnaeth y ffrwydriad ddeffro ymwybyddiaeth genedlaethol a cafodd yr effeithiau eu teimlo am ddegawdau wedyn.”
“Yng Nghymru ar y pryd roedd yn ymddangos nad oedd llais protest o Gapel Celyn ei glywed, ond fe chwaraeodd ran bwysig iawn wrth gryfhau achos Cymru fel cenedl yn y tymor hir.”
* Tryweryn: 50 Years On. Dydd Llun 19 Hydref, BBC One Wales, 10.35pm. Cynhyrchiad Telesgop ar gyfer BBC Cymru