Teledu

RSS Icon
06 Hydref 2015

Fformat newydd, beirniaid newydd – Fferm Ffactor ar ei newydd wedd

Bydd tri beirniad newydd yn ymuno â thîm Fferm Ffactor: Brwydr y Ffermwyr eleni, wrth i'r gystadleuaeth amaeth boblogaidd ddychwelyd i S4C nos Fercher, 14 Hydref.

Yn ogystal, bydd newid i fformat y rhaglen wrth i dimoedd, yn hytrach nag unigolion, gystadlu yn erbyn ei gilydd gyda'r nod o ennill teitl Fferm Ffactor: Brwydr y Ffermwyr a cherbyd Isuzu newydd sbon gwerth dros £20,000.

Y tri beirniad eleni yw - Richard Tudor sy'n ffermwr defaid o Geredigion; y darlithydd amaeth Wyn Morgan sy'n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, a'r arbenigwraig farchnata Caryl Gruffydd Roberts o Ddyffryn Conwy.

Mae Caryl yn cael blwyddyn gyffrous mewn mwy nag un ffordd. Nid yn unig mai hi yw beirniad benywaidd cyntaf Fferm Ffactor, mae hi hefyd wedi priodi dros yr haf.

Yn ogystal, ar ddechrau'r flwyddyn, cychwynnodd yn ei swydd fel Pennaeth Marchnata ac Aelodaeth Undeb Amaethwyr Cymru. Cyn hynny, roedd y ferch fferm yn Swyddog Gweithredol Sirol i'r Undeb, yn cynghori ac yn rhoi cymorth i dros 800 o aelodau am brosesau, systemau a ffurflenni amaethyddol. Ar ben hynny, roedd hi'n helpu gyda gwaith papur amrywiol y fferm deuluol.

"Heb os, mae amaethyddiaeth a chefn gwlad wedi bod yn rhan annatod o'm magwraeth," meddai Caryl, "ac mae'n ddiwydiant sy'n rhoi bywoliaeth i mi hyd heddiw.

"Rydw i'n hynod o gyffrous ac yn falch o dderbyn y cyfle i fod yn feirniad newydd yn y gyfres newydd o Fferm Ffactor," esbonia. "Ac fel y ferch gyntaf i fod yn feirniad, rwy'n edrych 'mlaen at adlewyrchu agweddau newydd a gwahanol o'r diwydiant."

Mae ei chyd feirniad Wyn Morgan yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Harper Adams, Sir Amwythig, ac yn arbenigo mewn Rheoli Busnes Fferm. Mae amaeth yn ei waed gyda theulu ei fam yn parhau i ffermio yn Sir Gaerfyrddin. Cyn mynd i fyd addysg, roedd yn gweithio gyda 'PROMA' (yr hen Fwrdd Marchnata Llaeth) ac mae hefyd wedi cadw busnes bridio a gwerthu moch.

"Roedd e'n newyddion grêt pan ffoniodd Cwmni Da gyda'r cynnig o feirniadu'r gyfres newydd o Fferm Ffactor," meddai Wyn. "Mae'n gyfle gwych i weld rhai o ffermwyr gorau Cymru yn cystadlu yn galed am y teitl. Bant â ni!"

Mae Richard Tudor yn dad i dri o blant ac yn ffermio dros 1500 o ddefaid a 100 o wartheg ar ei fferm yn Abermagwr, ger Aberystwyth. Mae hefyd yn cadw fferm fynydd yn Sir Drefaldwyn.

Mae'r ffermwr stoc yn cyflogi llawer o fyfyrwyr hefyd ac yn cymryd cymaint â 6 dros y tymor wyna. Y tu allan i faes amaeth mae'n is-reolwr tîm pêl-droed Llanilar. Mae wedi gwneud llawer gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc dros y blynyddoedd ac mae'n is-gadeirydd ar y Bwrdd Ardaloedd Llai Ffafriol gyda NFU Cymru.

"Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael bod yn un o'r tri beirniad i farnu Fferm Ffactor: Brwydr y Ffermwyr," meddai Richard. "Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r beirniaid eraill i ddewis y teulu amaethyddol gorau o gefn gwlad Cymru."

 

Fferm Ffactor: Brwydr y Ffermwyr

Nos Fercher 14 Hydref 7.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan/Ar alw: s4c.cymru

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |