Teledu

RSS Icon
13 Mai 2011

Wythnos yn Abertawe

Mae S4C yn paratoi i dreulio wythnos yn Abertawe wrth i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal yn y ddinas ar 30 Mai i 4 Mehefin.

Bydd rhaglenni cynhwysfawr o'r ŵyl ieuenctid bob dydd ar y Sianel, gyda darllediadau byw drwy gydol y dydd, yn ogystal ag uchafbwyntiau gyda'r nos, yn dod â’r holl gyffro o’r maes a’r llwyfan.

I ddathlu, mae dau o gymeriadau mwyaf poblogaidd plant Cymru – Rapsgaliwn a Mistar Urdd - wedi dod at ei gilydd i recordio fersiwn newydd o anthem fytholwyrdd Urdd Gobaith Cymru, Hei Mistar Urdd ar gyfer fideo trawiadol newydd. Bydd S4C yn defnyddio’r fideo fel ffilm hysbysebu i ddenu sylw at ddarllediadau’r Sianel o ŵyl ieuenctid fwya’ Ewrop.

Gallwch wylio'r fideo a lawr lwytho’r gân am ddim o wefannau S4C a'r Urdd - s4c.co.uk/urdd neu urdd.org/eisteddfod.

Mae nifer o ddigwyddiadau a gwyliau mawr Cymru wrth wraidd amserlen S4C dros yr haf, gan ddechrau gydag uchafbwyntiau o’r Ŵyl Tyddyn a Gardd yn Llanelwedd ar 21 a 22 Mai. Bydd Dai Jones, Shân Cothi a Russell Jones yn cyflwyno uchafbwyntiau o’r stondinau, cystadlaethau a’r arddangosfeydd ar nos Lun 23 Mai am 21:00.

 

Yn ogystal ag Eisteddfod yr Urdd, mae’r digwyddiadau byw eraill ar S4C yn cynnwys Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro a Sioe Frenhinol Cymru. Bydd y Sianel hefyd yn rhoi sylw i’r ŵyl donfyrddio a cherddoriaeth Wakestock, y digwyddiad cerddorol Chwilgig, ac mae’r ddwy sioe amaethyddol Sioe Môn a Sioe Sir Benfro ymhlith llu o ddigwyddiadau eraill.

Meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, "Mae S4C yng nghanol bywyd, iaith a diwylliant ein Cenedl. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhan bwysig o fywyd Cymru ac mae S4C yn ymrwymo i ddarlledu o holl ddigwyddiadau mawr yr haf yng Nghymru.”


 

Rhannu |