Teledu

RSS Icon
06 Mai 2011

Cicio yn erbyn y tresi

MAE’R chwe mis diwethaf wedi bod yn dipyn o ysgol brofiad i Casi Wyn, sydd wedi cymryd blwyddyn allan o’i hastudiaethau i wirfoddoli yn Affrica ac i ymddangos yng nghyfres ddrama S4C, Porthpenwaig.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda – mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel,” meddai Casi Wyn, 19 o Benrhosgarnedd, Bangor, sy’n chwarae un o’r prif rannau yn y gyfres sydd wedi’i hysgrifennu gan yr awdur a’r cyfarwyddwr Cefin Roberts a’r dramodydd Aled Jones Williams.

Yn y gyfres, sy’n cael ei darlledu bob nos Sul am 21:00 ar S4C ac ar gael ar s4c.co.uk/clic, mae Casi’n portreadu Heledd Ynyr, merch biwis, ddiog teulu Gwesty’r Angor.

Mae hi’n cicio yn erbyn y tresi pob cyfle, gan greu tensiwn ar yr aelwyd wrth iddi weld pentref bach glan môr Porthpenwaig yn rhwystredig a chul.

Wrth i’r stori ddatblygu, mae hi’n dechrau ystyried ei phosibiliadau o ryddid. Er mawr boendod i’w rhieni, mae’n syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Gary, ymwelydd â’r pentref.

“Mae hi wedi bod yn gymaint o hwyl i chwarae hogan sy’n dipyn o “spoilt brat” a chael bod yn ddigywilydd!” dywed Casi, am y cymeriad sydd newydd orffen ei harholiadau TGAU, ac yn gwneud yn aruthrol o wael yn yr ysgol.

“Dwi’n meddwl bod pawb yn mynd drwy gam fel’na yn ystod eu harddegau, felly mae’n debyg ‘mod i wedi bod yn meddwl am hynny wrth ei phortreadu!”

Er iddi gael profiad o actio ar lwyfan gyda Theatr Ieuenctid Cymru, hon yw swydd gyntaf actio Casi Wyn ar y sgrin fach.

“Roedd hwn yn brofiad hollol wahanol i actio ar lwyfan – roedd yn rhaid i mi atgoffa’n hun drwy’r amser nad oedd angen defnyddio cymaint o lais gan fod y meicroffon yn gwneud y gwaith hwnnw.

“Un o’r golygfeydd cyntaf i mi gael fy ffilmio oedd golygfa lle ro’n i’n cael snog! O’n i’n hollol nerfus, gyda’r dyn sain yn dal y bŵm reit wrth fy ngwyneb, a’r criw i gyd yn gwylio!”

Ymhell o’r camerâu a’r colur, profiad go wahanol i Casi oedd treulio pum wythnos yn gwirfoddoli gyda Camp International yn adeiladu toiledau i drigolion cymuned Mwhaka , Kenya ar ôl cwblhau’r gwaith ffilmio.

“Roedd yr holl beth yn agoriad llygad mawr – ac yn sialens. Mae profiadau bywyd pobl ifanc yn Mwhaka yn un o oroesi – ein rôl ni fel gwirfoddolwyr oedd adeiladu toiledau i’r gymuned

“Roedd gwerthfawrogiad y gymuned honno tuag at y gwaith yn anhygoel, ac mae profiad fel’na’n sicr o fod yn rhoi pethau mewn persbectif i chi.”

Troi at Wleidyddiaeth ym mis Medi fydd Casi, sydd wedi cael lle i astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain.

“Tydw i ddim am droi fy nghefn ar actio, a baswn i wrth fy modd yn gwneud mwy o waith ar gyfer y teledu neu ar lwyfan, ond dwi’n meddwl ar hyn o bryd ei fod yn beth reit ddefnyddiol i mi gael rhyw fath o gymwysterau yn gefn i mi.

“Yn y cyfamser, dwi am weithio ar fy nghanu, canu’r gitâr a’r piano, astudio – a gwau ambell i sgarff – sy’n ddiddordeb newydd gen i!

Rhannu |