Teledu

RSS Icon
11 Mehefin 2015

Sioe siarad newydd i drafod Cymru yn Euro 2016

Mae Cymru yn agosáu at greu hanes yn y byd pêl-droed drwy gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.

I ychwanegu at yr holl gyffro ymhlith dilynwyr y gêm brydferth yng Nghymru, bydd S4C yn darlledu sioe siarad pêl-droed arbennig, Taro'r Bar: Euro 2016 cyn y gemau sydd gan Gymru ar ôl yn rowndiau rhagbrofol y bencampwriaeth gan gychwyn nos Iau 11 Mehefin, noson cyn yr ornest rhwng Cymru a Gwlad Belg.

Bydd sioeau tebyg yn y gyfres Taro'r Bar: Euro 2016 yn cael eu darlledu cyn y pedair gêm ragbrofol arall – adre’ yn erbyn Israel ac Andorra ac oddi cartre’ yn erbyn Cyprus a Bosnia-Herzegovina.

Dylan Ebenezer a'r actorion a'r ffans pêl-droed Huw Rhys ac Aled Pugh fydd y tîm cyflwyno ac ar y rhaglen gyntaf fel gwesteion fydd cyn ymosodwr Cymru a Newcastle, Malcolm Allen a chyn chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, Owain Tudur Jones.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn eu grŵp a gyda'r ddau dîm cyntaf yn bendant yn mynd i rowndiau terfynol Euro 2016, mae'n gyfle gwirioneddol dda i Gymru gyrraedd eu twrnamaint rhyngwladol cyntaf ers 1958.

Bydd Taro’r Bar: Euro 2016 yn cael ei chynhyrchu gan Rondo Media, sy'n gyfrifol am raglenni chwaraeon S4C, Sgorio a Clwb.

Meddai Carwyn Williams, cynhyrchydd y gyfres: “Mae’n amser perffaith i lansio cyfres fel Taro’r Bar: Euro 2016 hanner ffordd drwy rowndiau rhagbrofol y bencampwriaeth gyda Chymru ar yr un nifer o bwyntiau â Gwlad Belg sydd â llawer o sêr y byd pêl-droed yn eu tîm. Gwahaniaeth yn y goliau yn unig sy’n gwahanu’r ddau dîm.

“Byddwn yn edrych ymlaen at y gêm fawr a gyda chynulleidfa yn y stiwdio yng Nghaernarfon, bydd pawb yn cael tipyn o hwyl hefyd. Yn y rhaglen gyntaf bydd Aled a Huw yn wynebu’r sialens o enwi gymaint â phosib o chwaraewyr a chyn chwaraewyr Cymru a gwneud hynny wrth sefyll ar adain awyren fil o droedfeddi i fyny yn yr awyr!”

 

Taro'r Bar: Euro 2016

Nos Iau 11 Mehefin, 10.00pm, S4C 
Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru Ar alw: s4c.cymru/clic

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C 

Rhannu |