Teledu

RSS Icon
09 Mehefin 2015

Tudur Owen yn 'Pechu' ar draws Cymru

 Mae clywed am rywun yn pechu yn destun clonc yn aml ond gwneud i chi chwerthin yw bwriad y comedïwr Tudur Owen yn y rhaglen Tudur Owen yn 'Pechu' ar S4C nos Sadwrn, 13 Mehefin.

Fel un o gomediwyr standyp mwyaf poblogaidd Cymru, mae Tudur, 47, newydd orffen taith o amgylch y wlad gyda'i sioe 'Pechu.' Ffilmiwyd y sioe ola' yn Theatr Richard Burton yng Ngholeg Brenhinol Celf a Drama Cymru yng Nghaerdydd gan gwmni teledu Zeitgeist a oedd hefyd yn gyfrifol am y daith.

"Osgoi gweithio ar y teledu mae comediwyr yn aml os yw hynny'n golygu dweud nifer fawr o jôcs gan fod cynulleidfa yn dod i wybod eu straeon. I'r comedïwr mae'r deunydd bob amser yn werthfawr ond dwi'n croesawu'r syniad o gael y sioe hon ar S4C," meddai Tudur sy'n dod o Ynys Môn ac yn byw yn Y Felinheli yng Ngwynedd.

Mae Tudur yn adnabyddus drwy Gymru fel seren Sioe Tudur Owen ar S4C, fel y cymeriad PC Leslie Wynne ac fel capten un o'r ddau dîm ar Munud i Fynd ar S4C yn ogystal â fel actor ar deledu, radio ac yn y theatr. Mae e hefyd yn cyflwyno ei sioe ei hun ar BBC Radio Cymru.

Er ei holl waith ar deledu, y sioe fyw o flaen cynulleidfa yw hoff gyfrwng Tudur. Mae e wedi gwneud sioeau comedi mewn theatrau a chanolfannau ar hyd a lled Cymru ers 15 mlynedd yn ogystal ag ymddangos ar y circuit yn Lloegr.

"Does dim i'w gymharu â pherfformio o flaen cynulleidfa mewn noson dorfol o adloniant a chael ymateb yn syth i'ch straeon. Fel arfer, chewch chi ddim ymateb felly wrth berfformio ar deledu ond roedd Sioe Tudur Owen yn cyfuno'r ddau fyd gyda chynulleidfa yn y stiwdio."

Bu'r sioe 'Pechu' yn ymweld â llefydd gwahanol iawn i'w gilydd - o Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli a Theatr Soar ym Merthyr i'r Coleg Celf a Drama yng Nghaerdydd.

"Mae 'na wahaniaeth mawr rhwng cynulleidfaoedd y gogledd a'r de," meddai Tudur. "Dwi'n cael mwy o drafferth yn y de - am un peth mae llai yn gwybod amdana i a dydyn nhw ddim bob amser yn gyfarwydd â'r acen."

A beth am y teitl 'Pechu?' "Mae e'n creu diddordeb a hefyd mae e'n rhoi rhywfaint o rybudd achos dydy'r sioe ddim at ddant pawb," meddai Tudur. "Yng Nghymru mae 'na ddisgwyl i bob adloniant fod yn addas i bawb. Mae gynnon ni ofn pechu pobol.

"Rydan ni gyd bownd o bechu ar ryw adeg neu'i gilydd ac wrth fynd yn hŷn dwi'n poeni llai am bechu pobol. Mae 'nghroen i'n mynd yn gryfach!"

Tudur Owen yn 'Pechu'

Nos Sadwrn 13 Mehefin 9.00, S4C

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Zeitgeist ar gyfer S4C

Rhannu |