Teledu

RSS Icon
05 Mehefin 2015

Elfyn Evans yn gobeithio am well safle yn Sardinia

Mae'r gyrrwr rali ifanc, Elfyn Evans, yn benderfynol o wneud yn iawn am y siom a gafodd ym Mhortiwgal trwy herio am le ar y podiwm yn rali'r Eidal - Rally Italia Sardegna.

Fe gafodd y Cymro o Ddolgellau broblemau technegol gyda'i gar newydd ym mhumed rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd a bydd y rali yn Sardinia yn bwysig iawn wrth iddo geisio adennill hyder.

Dywed Elfyn Evans, "Mae gen i lawer o atgofion arbennig o Rally Italia Sardegna, felly dw i'n edrych ymlaen at ddychwelyd yno. Dyma'r lle i mi fynd tu ôl i olwyn car rali'r bencampwriaeth am y tro cynta', a bydd yr atgo' yno yn aros gyda fi am amser hir iawn!

Bydd Ralïo+ yn dangos uchafbwyntiau'r rali nos Fawrth, 16 Mehefin ar S4C.  Emyr Penlan a Lowri Morgan fydd yn cyd-gyflwyno'r uchafbwyntiau o'r ynys brydferth. Mae'r rali yn adnabyddus am fod yn un heriol i'r gyrwyr. Y llynedd Sébastien Ogier gipiodd y fuddugoliaeth a fe hefyd sydd wedi dominyddu Pencampwriaeth Rali'r Byd 2015 hyd yn hyn.

"Mae'r rali yn un anodd. Mae'r ffyrdd yn gymysg a chul iawn, a fiw i chi wneud camgymeriad," dywed Elfyn. "Bydd fy safle yn chwarae rhan bwysig, ac fel y chweched car ar y ffordd - dylwn i fod mewn lle da, ond i fod yn gwbl onest dw i'n meddwl y bydd hyn yn dibynnu ar fy strategaeth deiars. Mae'r ffyrdd yn Sardinia yn arw, a dylai'r rheiny sy'n gallu gwarchod eu teiars wneud yn dda.

"Ar ôl Portiwgal, rydw i'n awyddus i symud ymlaen a dychwelyd i rasio'n dda eto. Mae 'na gystadleuaeth gref, ond os alla i gael ras glir, a chynyddu fy nghyflymder, dylwn i gael canlyniad da."

Er y siom ym Mhortiwgal, mae Elfyn Evans wedi cael tymor llwyddiannus hyd yma a llwyddodd i ennill ei le cyntaf ar y podiwm yn Rali'r Ariannin, drwy ddod yn drydydd. Mae'r llanc 26 oed bellach yn y chweched safle yn y tabl, a bydd yn gobeithio dringo'n uwch wedi'r rali yn Sardinia.  Ond pwy aiff â hi eleni?

Mae cyflwynydd Ralïo+ Emyr Penlan yn cyfaddef nad yw Sardinia yn rali hawdd.  "Y newydd da yw bod y cymalau i gyd yn newydd y tro hwn ac mae hynny'n golygu bod hi'n rali newydd i bawb. Mae'r ffyrdd yn greigiog iawn ac fe all osod problemau i unrhyw yrrwr ac mae hynny'n golygu ei bod yn rali agored iawn."

Meddai Emyr Penlan, "Mae pencadlys Rally Italia Sardegna yng ngogledd yr ynys, yn Olbia, ac mae 'na rywbeth at ddant pawb yn chweched rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd. Gyda miloedd yn heidio yno i wylio, bydd rhaid i'r cystadleuwyr gadw eu pennau yng ngwres y frwydr oherwydd mae graean Sardinia wedi dod â sawl breuddwyd i ben yn y gorffennol."

Ralïo+

Nos Fawrth 16 Mehefin 10.00, S4C 

Hefyd, nos Iau 18 Mehefin 6.00, S4C 

Gwefan: s4c.cymru                         

Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

Rhannu |