Teledu

RSS Icon
21 Mai 2015

Dathlu 150 mlwyddiant Patagonia gyda Huw Edwards

Mae hi’n ganrif a hanner ers i griw o Gymry deithio ar y Mimosa ar draws Môr yr Iwerydd, i chwilio am fywyd newydd yn Ne America. Ac i nodi’r achlysur, mae Huw Edwards yn teithio 7,000 o filltiroedd i ymweld â Phatagonia am y tro cyntaf.
  
Yn y rhaglen newydd Patagonia Huw Edwards ar S4C, mae Huw yn sgwrsio â rhai o berthnasau’r arloeswyr cynnar oedd yn rhan o un o’r anturiaethau mwyaf anhygoel yn hanes Cymru.

Y bwriad oedd creu cymuned newydd i ddiogelu’r Gymraeg, ond erbyn blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, roedd mwy o gymunedau yno o wledydd eraill, a’r Cymry felly’n lleiafrif.

Meddai Huw, a glywodd am hanes Patagonia am y tro cyntaf ddeugain mlynedd yn ôl pan yn yr ysgol gynradd yn Llangennech, “Rwyf wedi teithio ar draws y byd fel newyddiadurwr a darlledwr, ond dyma’r tro cyntaf i mi gael y profiad o fywyd Cymreig yn Nhalaith Chubut yn Ne’r Ariannin. Mae cymunedau Chubut a’r Andes yn groesawgar ac yn ddiffuant, yn falch o’u llinach Gymreig ac yn awyddus i greu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r rhaglen ar nos Sul, 31 Mai yn ystyried dyfodol yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn y Wladfa a chawn weld Huw Edwards yn chwarae emyn ar yr organ - offeryn ddaeth i Batagonia ym 1865 gyda’r arloeswyr. Cawn glywed am gyfraniad y Cymry ym Mhatagonia a sut mae cymunedau yno hyd heddiw yn elwa o’u gwaith a’u profiadau. 

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, “Bydd S4C yn nodi hanes difyr y Cymry a’r rheiny ag etifeddiaeth Gymreig ym Mhatagonia gydag amrywiaeth o raglenni cyffrous, newydd ac archif cyfoethog. Mae rhaglen ddogfen Huw Edwards, un o ddarlledwyr mwyaf blaenllaw ein cenhedlaeth, yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod yn ein tymor dathlu’r glaniad ym mis Gorffennaf. Rydym ni wrth ein bodd i gael cydweithio yn agos gyda’r BBC a nifer o gyrff eraill i wneud hwn yn ddathliad rhyngwladol bythgofiadwy.”

Mae dathliadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru a Phatagonia i nodi’r flwyddyn arbennig hon ac yn ogystal â rhaglen Patagonia Huw Edwards ar S4C, darlledir Patagonia with Huw Edwards ar BBC1 Wales nos Lun, 1 Mehefin. 

Patagonia Huw Edwards
Nos Sul 31 Mai 8.00, S4C
Hefyd, dydd Llun 1 Mehefin, 3.00 a dydd Mercher 3 Mehefin 10.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru 
Cynhyrchiad BBC Cymru 

Rhannu |