Teledu

RSS Icon
14 Mai 2015

Y seren hip hop sy'n byw mewn ogof

Seren hip hop o Borthmadog sy'n byw mewn ogof yn Sbaen fydd yn cael y sylw mewn rhifyn arbennig o'r gyfres sin gerddoriaeth Ochr 1 nos Iau, 28 Mai.

Rhwng 2000 a 2005, roedd Aron Elias yn aelod amlwg o'r sin gerddorol yng Nghymru, fel prif leisydd un o grwpiau mwya' poblogaidd a dylanwadol y cyfnod - Pep le Pew. Yna, fe aeth Aron i ganu gyda grŵp dylanwadol arall ar y sin, Y Rei, hyd i'r grŵp ddod i ben yn 2009. 

Bellach, mae Aron yn byw bywyd diddorol a gwahanol iawn mewn ogof yn ninas Granada, Sbaen.

Ar ôl cael digon o'i fywyd prysur, penderfynodd Aron adael bwrlwm y sin roc a phop ac yn ystod y rhaglen Ochr 1: Aron Elias cawn glywed ei resymau dros adael Cymru am fryniau Sbaen.

"Ffawd ydy o i fi, do'n i ddim yn chwilio am ogof, ond dwi'n byw yma ers rhyw flwyddyn," dywed Aron.

Mae gan Aron olygfa hyfryd o'i gartref newydd, sydd wedi ei leoli ar fynydd Sacromonte uwchben Granada yn Andalucía, de Sbaen. Mae'n ennill ei fywoliaeth drwy berfformio fel cerddor ar strydoedd y ddinas, neu o amgylch ardal Albaicin.

Mae Aron yn byw yn Sbaen ers rhai blynyddoedd ac yn mwynhau'r rhyddid mae bywyd hunangynhaliol yn ei gynnig iddo. Roedd bywyd fel canwr hip hop yng Nghymru yn gallu teimlo'n rhwystredig ac anodd ar brydiau, meddai.

"Fe wnes i ddechra' Pep Le Pew, ac wedyn roedd o fel rhyw anifail neu ddraig. Fi oedd y front man, ac ma' hwnnw'n gorfod bod yn hyderus. Ond es i ar goll. Ar lwyfan fi oedd Aron Pep Le Pew; ond dim fi oedd hynny go iawn," eglura.

Disgrifia Aron ei hun erbyn hyn fel sipsi, ac mae'n dweud ei fod yn byw gyda sipsiwn eraill yn yr ogofau. Mae'n byw bywyd cyntefig tu hwnt a does ganddo ddim trydan yn ei gartref. 

"Ddaru un boi ddweud wrtha i fod 'na un rheol os wyt ti'n byw yn yr ogofau; rhaid bod heb bres. Dewis ydy o, fuaswn i'n gallu penderfynu cael fflat a swydd iawn, ond dwi'n licio fo, dwi'n gwerthfawrogi pethau mwy.

"Mae 'na bobl o bob man wedi dod yma, rydyn ni'n agos, ond mae pawb hefo'i chwinc. Ond fel cymuned, mae 'na lot o artistiaid, a beirdd yn byw yma, a phawb, bron, yn gallu chwarae'r gitâr!"   

Ochr 1: Aron Elias.

Nos Iau 28 Mai 10.00, S4C

Gwefan: s4c.cymru                                   

Ar alw: s4c.cymru/clic

Cynhyrchiad Antena ar gyfer S4C

Rhannu |