Teledu

RSS Icon
16 Ionawr 2015

Beti George yn teithio i Affrica i ymchwilio i DNA y Cymry

Fe fydd Beti George, un o gyflwynwyr cyfres newydd S4C, DNA Cymru, yn ymddangos ar raglen Heno nos Wener, 16 Ionawr.

Ynghyd a sôn am ei thaith anhygoel i Danzania - y tro cyntaf iddi ymweld â Dwyrain Affrica - bydd Beti yn siarad am ei hymweliad bythgofiadwy gyda’r Hadza.

Yr Hadza yw’r llwyth sydd wedi byw yn yr ardal ger Llyn Eyasi ar droedfryniau crater yr Ngorongoro am ddegau o filoedd o flynyddoedd. Os ydyn am geisio deall stori’r Cymry, bydd angen dechrau gyda phobl fel nhw.

Roedd Beti’n teimlo’n gartrefol gyda’r helwyr-gasglwyr yma am nifer o resymau ddaeth yn annisgwyl iddi hi, a chafodd foddhad yn dysgu eu hiaith frodorol, ‘Clic’ ac ymuno yn eu ffordd o fyw.

“Yn ystod fy nhaith roeddwn i wrth fy modd yn gweld y mynydd byd-enwog, Kilimanjaro, ac i gwrdd ag anifeiliaid sy’n nodweddiadol o dir y cyfandir - yn enwedig y jiráffs a’r sebras!” meddai Beti.

“Mae Cymraes fel fi yn edrych mor wahanol i ddynes o lwyth yr Hadza, felly mae'n ddiddorol iawn darganfod y cysylltiadau genetig  sydd rhyngom ni. Darganfyddiadau fel hyn sy’n gwneud cyfres DNA Cymru mor gyffrous.”

Fe fydd Angharad Mair hefyd yn derbyn canlyniadau ei phrawf DNA i ddarganfod ei chyndeidiau hi yn fyw ar raglen Heno nos Wener, 16 Ionawr.

Rhannu |