Teledu

RSS Icon
09 Ionawr 2015

John Hardy yn rhoi sylw i'r rhyfel aeth yn angof

Bydd John Hardy yn mynd ar daith bersonol ac emosiynol i Dde Corea ar S4C nos Fawrth 20 Ionawr, wrth iddo olrhain hanes ei dad a'i ran yn Rhyfel Corea, yn Gohebwyr: John Hardy – Cofio Rhyfel Corea.

Mae hi'n 65 mlynedd ers dechrau Rhyfel Corea; brwydr a barodd dair blynedd gyda miloedd o Brydeinwyr yn cael eu lladd, eu hanafu neu mewn rhai achosion eu harteithio. Ond er hynny, erbyn hyn mae nifer fawr o bobl ym Mhrydain wedi anghofio'n llwyr – neu heb glywed hyd yn oed - am Ryfel Corea.

"Mae o'n un o'r rhyfeloedd yna sydd wedi ei ’sgubo dan y carped. Tan yn ddiweddar doedd yna ddim cofeb ym Mhrydain i'r rheiny oedd wedi brwydro yng Nghorea," eglura John Hardy sy'n wreiddiol o Fangor. "Mae'r milwyr yma wedi eu hanghofio a'u hanwybyddu. Ac roeddwn i'n teimlo wedi'r  holl ganolbwyntio ar y Rhyfel Byd Cyntaf, bod Corea hefyd yn haeddu sylw."

Mae yna reswm arbennig pam mae John eisiau dysgu mwy am Gorea, a hynny oherwydd i'w dad, Dr Ken Hardy, o Fangor, wasanaethu fel meddyg yno. Roedd Ken yn brif feddyg ar long y Dunera, oedd yn cludo milwyr 'nôl a 'mlaen o Brydain i Gorea

Cyn y flwyddyn ddiwethaf doedd tad John erioed wedi trafod yr hyn welodd yng Nghorea gyda'i feibion. Ar un daith 'nôl i Brydain, daeth Ken o hyd i gorff milwr yn farw ar y llong. Bydd John yn ceisio datrys y dirgelwch a darganfod mwy am yr hyn a ddigwyddodd iddo. 

Bydd hanes y milwr hwnnw yn codi'r llen ac yn datgelu mwy am erchyllterau a dioddefaint y milwyr fu'n brwydro yng Nghorea.

"Roedd o'n gyndyn i siarad am y rhan yna o'i fywyd. Roedd o'n teimlo nad oedd o wedi gwneud dim byd, a bod y rhyfel wedi bod ac wedi pasio. Wnes i ddim holi chwaith, ac mi oeddwn i'n teimlo'n euog am hynny," dywed John am ei dad, Ken, 86 sydd yn wreiddiol o Fanceinion.

Rydym wedi arfer â chlywed am densiynau Gogledd Corea gyda'r gorllewin, a phrofodd John hyn pan aeth i ymweld â De Corea. Mae nifer o deuluoedd wedi eu gwahanu gan yr anghydfod. Siaradodd John â nifer o bobl oedd wedi ffoi o'r gogledd yn ystod y rhyfel, a dydyn nhw ddim wedi clywed gan eu teuluoedd yno ers diwedd yr anghydfod ym 1953.

"Mae o'n un o'r rhyfeloedd 'na sydd yn dal i barhau," meddai John sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. "Mae De Corea yn un o wledydd mwyaf modern y byd, ac yn wlad sy'n tyfu'n sydyn. Ac mae prifddinas De Corea, Seoul, yn agos at un o wledydd mwyaf caeedig y byd, Gogledd Corea. Mae arnyn nhw ofn bod rhywun yn mynd i bwyso botwm arnyn nhw."

Siaradodd John â nifer o Gymry aeth draw i Gorea adeg y rhyfel a dyma'r tro cyntaf i nifer ohonynt drafod eu profiadau. Bydd y cyn filwyr, Dyfrig Williams o Borthaethwy, Meirion Talfryn Davies o Frynaman Uchaf a Warren Martin o Lanfairfechan yn rhoi eu persbectif nhw ar y rhyfel.

Ond yn ôl John, go wahanol oedd agwedd pobl De Corea tuag at y rhyfel. "Roedd mynd i Gorea yn agoriad llygad, mae 'na gofebau i'r milwyr ym mhob man. Mae hi'n wlad wahanol iawn i Gymru, ac roeddwn i'n disgwyl hynny. Ond mae hi'n wlad sydd wedi llwyddo i gofio, ac maen nhw'n ymwybodol o beth wnaeth un ar hugain o wledydd drostynt. Maen nhw'n ddiolchgar am eu rhyddid."

Ond efallai bod y rhod yn dechrau troi, yn ystod mis Rhagfyr 2014 dadorchuddiwyd y gofeb gyntaf ym Mhrydain i gofio am y milwyr a fu farw yng Nghorea. Aeth John i weld dadorchuddiad y gofeb yn Llundain gyda'i dad, lle y cyfarfu Ken â nifer o gyn-filwyr, sawl un oedd wedi bod ar long y Dunera gydag e.

"Roedd o'n daith emosiynol, ac fe ddaeth â ni yn nes at ein gilydd. Ac mae o wedi sicrhau fod rhywbeth nad oedd yn cael ei drafod bellach yn cael ei drafod. Ac mae o'n bwysig hefyd i fy nhri brawd, fy mhlant a fy wyrion. Dwi wedi dysgu mwy am fy nhad ac ennyn mwy o barch tuag ato."

Gohebwyr: John Hardy – Cofio Rhyfel Corea

Nos Fawrth 20 Ionawr 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk    

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C 

Llun: John Hardy a'i dad wrth Gofeb Rhyfel Coreayn  Llundain

Rhannu |