Teledu

RSS Icon
07 Tachwedd 2014

Adlewyrchu pryder am ddyfodol cymunedau gwledig Cymru

Bydd y bryder am ddyfodol cymunedau gwledig yn cael ei adlewyrchu mewn cyfres newydd ym mis Tachwedd ar S4C.  

Er mai drama-gomedi yw Cara Fi, mae tinc difrifol tu ôl i'r ysgafnder yn ôl comisiynydd y gyfres.

Bydd Cara Fi yn dilyn hynt a helynt trigolion Tretarw, pentref dychmygol yng ngorllewin Cymru, ble mae'r merched yn brin a'r dynion yn ysu am gariad.

Mewn ymdrech i achub y pentref, mae landledi'r dafarn leol yn penderfynu hysbysebu dynion sengl Tretarw ar gartonau llaeth, a bob wythnos daw merch newydd i'r pentref i chwilio am gariad.

"Mae'r cynnwys yn rhamantus ac yn twymo'r galon," meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Ond mae'r cyd-destun yn reit ddifrifol. Yn anffodus mae sefyllfa Tretarw yn un sy'n or-gyfarwydd ar hyd a lled Cymru."

Yn arwain y crwsâd i achub y pentref mae Nancy, landledi tafarn Yr Angor, rhan a gaiff ei chwarae ran yr actores Christine Pritchard.

"Syniadau radical sydd ishe i achub y lle hwn!" Yw geiriau Nancy wrth iddi annerch y dynion sengl ym mhennod gynta'r gyfres.

"Dylech chi fod yn grac," aiff yn ei blaen, "Fe gollon ni'r neuadd, y cigydd, swyddfa bost, a ni bwti colli'r ysgol achos s'dim digon o blant i lanw'r dosbarth.

"Siapwch hi! Nid blydi angladd yw hwn, ond galwad i'r gad! Mae pentrefi fel hyn yn marw mas ar hyd a lled Cymru bob blwyddyn, ond nage ni bwti mynd 'run ffordd" 

Nid digalonni yw pwrpas y gyfres yn ôl Comisiynydd Drama S4C, ond yn hytrach ysbrydoli, a rhoi gobaith.

"Ydy, mae'n sefyllfa drist ac mae'n sefyllfa real mewn nifer o lefydd yng Nghymru, ond mae Nancy, a thrigolion Tretarw yn penderfynu mynd i'r afael â'r sefyllfa, a cheisio gwarchod dyfodol y pentref. Ac yn sgil hynny daw straeon teimladwy, doniol a thwym galon iawn.

"Mae hi'n gyfres fywiog a hoffus, ond tydi hi ddim yn cilio rhag y gwir am sefyllfa nifer o bentrefi a threfi Cymru chwaith. Yng ngeiriau Nancy, nid angladd yw hi, ond galwad i'r gâd!"

Mae Cara Fi yn dechrau ar S4C nos Sul 9 Tachwedd am 9.00pm. 

Rhannu |