Teledu

RSS Icon
03 Hydref 2014

Y Dyn y Tu Ôl i'r Actor

A hithau’n wythnos dathlu 40fed pen-blwydd y gyfres sebon Pobol y Cwm, fe fydd S4C yn darlledu ffilm ddogfen onest a theimladwy ar Nos Fawrth, 14 Hydref am yr actor fu’n chwarae un o gymeriadau amlyca’r opera sebon.  

Am flynyddoedd, roedd Jac Daniels ymhlith cymeriadau mwyaf cofiadwy Pobol y Cwm ac mae’r dyn fu’n ei chwarae, Dafydd Hywel yn un o actorion mwyaf gafaelgar Cymru.

Mae Dafydd Hywel yn gymeriad lliwgar, dwfn a di-flewyn ar dafod. Ond, wrth ei ddilyn am gyfnod o chwe diwrnod yn y ffilm ddogfen Dafydd Hywel, cawn gipolwg personol ar y dyn tu ôl i’r actor.

Mae’r actor 68 oed, sy’n hanu’n wreiddiol o bentre’ Garnant, Ddyffryn Aman, wedi bod yn gawr ar lwyfan, teledu a ffilm dros y pum degawd diwethaf.

Mae wedi bod yn amlwg mewn llu o gynyrchiadau ffilm a theledu llwyddiannus, gan gynnwys Y Pris, I Fro Breuddwydion ac Alcoholig Llon ar S4C a chyfresi drama rhwydwaith fel The Indian Doctor, The Bill a Holby City i enwi ond rhai.

Yn ddiweddar, mae wedi bod yn un o sêr y gyfres Stella ar deledu Sky, a ysgrifennwyd gan yr actores a’r awdur Ruth Jones a David Peet. Mae lleoliad y gyfres honno yn Ferndale yn un o’r mannau y bu’r ddogfen  yn ffilmio Dafydd.  

Cawn ddilyn Dafydd Hywel yn ei gartre’ yng Nghapel Hendre ac yn Nyffryn Aman lle y cafodd ei fagu. Mae hefyd yn mynd â ni i leoedd eraill pwysig iddo - gan gynnwys Cilmeri, yn Sir Faesyfed, man marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf, tywysog olaf Cymru ac ardal Rhos-y-Bwlch (Rosebush) yn Sir Benfro. 

Cyfarwyddwr y ffilm ddogfen yw Dylan Wyn Richards, a gyfarwyddodd y ffilm Burton: Y Gyfrinach, lle y gwelsom Dafydd Hywel yn portreadu brawd Richard Burton, Ivor mewn ffordd mor gofiadwy.

Fe enillodd y ffilm honno brif wobr 'Ysbryd yr Ŵyl' yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ddwy flynedd yn ôl a hynny am y portread o ddiwrnod  tyngedfennol yn hanes Richard Burton a’i frawd Ivor Jenkins yn villa’r seren Hollywood, Pays de Galles ym Mehefin 1968. Cafodd berfformiadau Dafydd Hywel a Richard Harrington ganmoliaeth uchel gan y beirniaid teledu ar y pryd.

Mae ffilm ddogfen arall a gyfarwyddwyd gan Dylan Wyn Richards – y ffilm Gwirionedd y Galon: John Davies yn dilyn yr hanesydd John Davies dros gyfnod o wythnos - wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru.

* Dafydd Hywel, Nos Fawrth 14 Hydref 9.30, S4C

Cynhyrchiad Double Agent Films ar gyfer S4C

Rhannu |