Teledu

RSS Icon
18 Medi 2014

Mae Kath Jones yn ôl yn y Cwm

Mae un o'r cymeriadau mwyaf  eiconig yn hanes Pobol y Cwm yn dychwelyd i Gwmderi.

Yn un o gymeriadau mwyaf blaenllaw a phoblogaidd Pobol y Cwm erioed, yn 2007 fe adawodd Kath Jones yr opera sebon wedi pymtheg mlynedd. Nawr, mewn stori arbennig iawn, mae'r cymeriad chwedlonol yn ei hôl.

Bu Siw Hughes yn chwarae rhan Kath Jones ar Pobol y Cwm o 1993 tan iddi adael yn 2007, ond heddiw gallwn gadarnhau y bydd Siw yn dychwelyd fel Kath Jones ar gyfer y stori arbennig.

"Mi fedrai ddweud â'm llaw ar fy nghalon bod Kath yn ôl o Sbaen ar gyfer angladd, ond fedrai ddim dweud mwy na hynna," meddai Siw Hughes, a ddaw'n wreiddiol o Langefni ac sy'n byw yng Nghaerdydd.

"Mae'n braf iawn bod yn ôl. Mae'n gyffrous iawn camu nôl i 'sgidiau Kath Jones. Mae gen i le mawr yn fy nghalon i Kath; mae hi wedi bod yn garedig i mi, ac i fy ngyrfa, ac mae hi wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i mi mae'n rhaid dweud."

Mae Pobol y Cwm wedi rhyddhau llun sy'n cadarnhau y bydd Siw yn ôl ar gyfer stori arbennig fydd ar y sgrin ym mis Hydref wrth i'r opera sebon ddathlu ei phen-blwydd yn 40.

Bydd Shelley Rees oedd yn actio Stacey Jones yn y gyfres, merch Kath, hefyd yn dychwelyd ar gyfer y pen-blwydd.

"Y peth gorau am fod yn ôl yw cael gweithio efo Shelley Rees, Arwyn Davies a Maria Pride eto – yr hen deulu yn ôl efo'i gilydd!

"'Da ni'n cael ein hatgoffa faint o sbort ydy o, ac yn bownsio oddi ar ein gilydd fel actorion, felly gobeithio y bydd hynny i'w weld ar y sgrin."

Ers iddi adael Pobol y Cwm yn 2007 mae Siw wedi bod yn brysur gyda nifer o brosiectau, gan gynnwys portreadu'r hoffus Jemma Haddon ar gyfres Gwaith/Cartref, gweithio ar gynyrchiadau theatr i Sherman Cymru gan gynnwys Fe Ddaw'r Byd i Ben a Trwy'r Ddinas Hon. Mae hi hefyd yn chwarae rhan Beti Brysur yn y gyfres blant boblogaidd ar S4C, Llan-ar-goll-en.

"Roedd hi'n anodd gadael Pobol y Cwm ond fy mhenderfyniad i oedd o, am 'mod i eisiau her newydd, fel actores. Ro'n i'n teimlo 'mod i wedi chwarae rhan Kath am ddigon o amser, ac roedd pobl wedi dechrau meddwl mai fi oedd Kath! Sy'n andros o gompliment wrth reswm, ond dwi ddim yn yr un cae a Kath – mae hi yn llawer gwell dynas na fi!"

Nawr mae'r dyfalu ar gychwyn. Pam bod Kath a Stacey yn ôl? Angladd pwy yw hi? Dewch draw i'r Cwm i gael gwybod mwy…

Pobol y Cwm

Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C

Nos Lun i nos Wener am 20:00 ar S4C

Rhannu |