Teledu
Gêmau Cwpan Rygbi’r Byd yn fyw
MAE S4C wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu rowndiau terfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd.
Bydd darllediadau’r sianel yn cynnwys naw gêm yn fyw gan ddilyn holl gêmau Cymru yn ystod y bencampwriaeth. Yn ogystal â hynny, bydd gêm o rownd yr wyth olaf, gêm o’r rownd gynderfynol, y gêm trydydd safle a’r ffeinal hefyd yn fyw ar S4C.
Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar 9 Medi gyda darllediad o’r seremoni a’r gêm agoriadol rhwng Seland Newydd a Tonga ym Mharc Eden, Auckland.
Gyda’r holl gemau yn fyw yn ystod y boreau, bydd cyfle i wylwyr fwynhau ail-ddangosiad yn hwyrach yn y dydd o fewn yr oriau brig. I’r rheini sy’n colli’r darllediadau cyntaf, bydd cyfle i weld y cyfan eto y diwrnod canlynol.
Bydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yn dechrau ar 11 Medi yn erbyn deiliaid Cwpan y Byd, De Affrica, yn Wellington. Yna bydd Cymru’n symud ymlaen i herio Samoa yn Stadiwm Waikato yn Hamilton (18 Medi). Namibia fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru ar 26 Medi yn New Plymouth cyn iddynt wynebu Ffiji nôl yn Hamilton ar 2 Hydref.
Yn ogystal â’r darllediadau teledu, bydd y naw gêm ar gael i’w gwylio ar wasanaeth dal i fyny ar-lein S4C, s4c.co.uk/clic. Gallwch hefyd fwynhau holl uchafbwyntiau’r gemau ar y wefan rygbi, s4c.co.uk/rygbi.
Meddai Jamie Roberts, chwaraewr y Gleision a Chymru: “Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn uchafbwynt yn y calendr rygbi ac mae’n newyddion arbennig o dda fod S4C yn ymuno yn y digwyddiad mawreddog drwy ddarlledu gemau Cymru’n fyw yn Gymraeg.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gystadlu am le yng ngharfan Cwpan y Byd Cymru yn Seland Newydd ac rwy’n falch y bydd gan bobl Cymru’r cyfle i ddilyn ein carfan genedlaethol ar S4C.”