Teledu
Dewi a’r dewis rhwng Porthdinllaen a Chaergybi
Bydd yr hanesydd a’r darlledwr Dewi Prysor yn ymchwilio i’r rheswm y dewiswyd Caergybi yn hytrach na Phorthdinllaen fel porthladd ar gyfer siwrnai fferi rhwng Cymru a’r Iwerddon, mewn rhaglen gyntaf y gyfres Darn Bach o Hanes ar ddydd Mercher, 3 Medi (8.25, isdeitlau Cymraeg ar gael).
Heddiw mae Porthinllaen yn bentref arfordirol ym mhenrhyn Llŷn, yn aml gwelir y Porthdinllaen yn hyrwyddo Cymru ar draws y byd fel lle i ymweld ag o. Ond yn y ddeunawfed ganrif roedd cred ymhlith nifer mai Porthdinllaen fyddai’r prif gyswllt rhwng yr Iwerddon a Phrydain, gan ddwyn y teitl oddi wrth Gaergybi. Roedd Porthdinllaen yn harbwr naturiol, ac yn cynnig mwy o gysgod i’r cychod na Chaergybi. Dywed y cyflwynydd Dewi Prysor, o Flaenau Ffestiniog am y gystadleuaeth;
“Bu Caergybi yn brif safle i deithio i ac o’r Iwerddon ers canrifoedd, er y bu Porthdinllaen yn cael ei ddefnyddio ar gyfnodau hefyd. Y prif bwrpas oedd cario’r post a nwyddau ac ambell dirfeddiannwr. Ond wedi Deddf Uno Iwerddon a Phrydain yn 1800, roedd rhaid i Aelodau Seneddol yr Iwerddon deithio i Lundain. Dyma pryd y daeth anhwylusdra y daith trwy Gaergybi yn amlwg… Trodd rhai eu golygon at ffyrdd o wella’r ‘ffordd ogleddol’ (Northern Route), sef Caergybi i Lundain, tra y trodd eraill eu sylw at yr opsiwn ‘ddeheuol’ (Southern Route), sef Porthdinllaen i Lundain, oedd â manteision amlwg dros y ffordd ogleddol. Mi dyfodd y gystadleuaeth o hynny…”
Mae’n anodd dychmygu bellach fod cystadleuaeth wedi bodoli, yn arbennig gan mai Caergybi bellach yw ail borthladd prysuraf Prydain ar ôl Dover, ond am gan mlynedd wedi hynny, o ddiwedd y ddeunawfed ganrif i 1910 roedd y gystadleuaeth rhyngddynt yn amlwg.
Penderfynodd y senedd bod angen adeiladu porthladd newydd o Ddulyn, yn arbennig wedi Deddf Uno 1800, daeth aelodau Gwyddelig o’r senedd i San Steffan, ac roedd angen taith hwylus arnynt. Yn ystod y cyfnod yma, roedd Caergybi o dan anfantais, oherwydd roedd y rheiny oedd yn glanio yn gorfod wynebu croesi dyfroedd peryglus yr afon Menai. Roedd yr achos dros Porthdinllaen yn gryf, yn ôl Dewi Prysor;
“Wrth deithio trwy Gaergybi, roedd rhaid i deithwyr gamu mewn ac allan o gychod, a chael eu cario ar ysgwyddau gweision trwy’r dŵr, mewn tri gwahanol leoliad - Caergybi, Afon Menai, ac aber yr Afon Conwy. Roedd gweddill y siwrnai mewn coets fawr ar ffyrdd gwael trwy fynyddoedd a thywydd drwg Cymru yn araf ac anghyfforddus. Gyda’r daith trwy Borthdinllaen, dim ond dwywaith fyddai rhaid iddynt gamu o…”
Ond wedi datblygiadau ffyrdd Thomas Telford roedd hi’n lawer haws cyrraedd Caergybi;
“Dechrau'r diwedd i achos Porthdinllaen oedd adeiladu Pont Menai gan Thomas Telford yn 1826, oedd yn cysylltu ei ffordd newydd, yr A5 heddiw, ag Ynys Môn” dywed Dewi, sydd yn wreiddiol o Gwm Prysor, “Yr hoelen olaf yn arch achos Porthdinllaen, mwyaf tebyg, oedd cwblhau Pont Britannia gan Robert Stephenson yn 1850 - camp aeth â’r rheilffordd drosodd i Fôn ac ymlaen i Gaergybi.”
Gwrthodwyd y mesur i wneud Porthdinllaen fel harbwr ar gyfer masnach rhwng yr Iwerddon yn 1910. Cred Dewi Prysor fod hyn yn fendith i Borthdinllaen;
“Er y bu peth datblygiad ym Mhorthdinllaen - gwesty a phier ac yn y blaen - er mwyn paratoi ar gyfer y cychod cario teithwyr I Iwerddon, bu fawr o newid yno. Ond y gwir amdani ydi fod hynny yn fendith, achos mae Porthdinllaen ymysg y traethau a phorthladdoedd naturiol harddaf yng Nghymru. “