Teledu

RSS Icon
08 Ebrill 2011

Drama go iawn yng nghefn gwlad

TRIONGL cariad, busnes teulu llwyddiannus, cymdeithas glos cefn gwlad, cymeriadau ffraeth, cysgodion y gorffennol a thirlun trawiadol Pen Llŷn yn gefn i’r cyfan - croeso i bentre’ Porthpenwaig - a chyfres ddrama newydd S4C.

Am yr wyth wythnos nesa’ – yn dechrau nos Sul, Ebrill 17 – cawn ddilyn hynt ac amryw helynt teulu gwesty Yr Angor. Cawn hanes cymeriadau mewn pentre’ glan-y-môr yn y gyfres a ffilmiwyd ar leoliad yn Aberdaron a’r cyffiniau.

Bydd teulu’r Angor, Ynyr ap Hedd, ei wraig Heulwen, eu merch Heledd ac yn arbennig, mab y teulu, Huw Ynyr, yn dod yn gyfarwydd inni yn y ddrama a gafodd ei chynllunio, storia a’i chyd-sgriptio gan yr awdur, cyfarwyddwr theatrig ac arweinydd côr adnabyddus Cefin Roberts.

Prif ganolbwynt y ddrama ydy’r triongl emosiynol rhwng Huw (Tudur Evans), a’r ddwy ferch yn ei fywyd. Mae’n rhannu ei amser rhwng ei gariad bore oes, Gwenan Lloyd (Nerys Lewis) a’i gariad coleg, Casi Mainwaring (Elin Llwyd), hogan o Gaerdydd y mae wedi mwynhau affêr hirdymor gyda hi yn y coleg ym Mangor.

Y tu hwnt i’r triongl, mae cymuned glos iawn o gymeriadau difyr, gan gynnwys staff Yr Angor fel y barmêd Manon, Muriel ‘Bob Dim’ o’r siop leol, y pysgotwr garw lleol, Largo a’i wraig biwis Ann, Ficer ifanc yr Eglwys, Dewi Aeron a mam Gwenan, Edna, sy’n byw yng nghysgod profedigaeth.

“Mae Huw Ynyr yn debyg iawn i lot fawr o Gymry ifanc sy’n cael eu tynnu rhwng dau fyd – mynd lawr yr A470 i gael bywyd cyffrous yng Nghaerdydd neu ddychwelyd i’w gwreiddiau yng nghefn gwlad,” meddai Cefin, a sefydlodd, gyda’i wraig Rhian, ysgol berfformio Glanaethwy 21 mlynedd yn ôl.

“Dyma ganol y ddrama - ond o’i chwmpas hi mae ‘na gymdeithas naturiol fyw Gymreig lle mae’r teulu estynedig - y math o gymuned sy’n dal i fod mor fyw ym Mhen Llŷn ac mewn rhannau eraill o Gymru.”

Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Rondo, y cwmni tu ôl i’r gyfres ddrama lwyddiannus i blant a phobl ifanc, Rownd a Rownd. Fe gafodd un o’n llenorion disgleiriaf, y dramodydd a’r bardd Aled Jones Williams, ei ddenu i sgriptio pedair o’r penodau, ei gynnig cyntaf ar sgriptio i deledu.

Mae’r gyfres hefyd wedi tynnu ynghyd gast cryf sy’n gyfuniad o wynebau newydd ac actorion profiadol a chyfarwydd. Yn ogystal â’r tri phrif actor, mae Morfudd Hughes, John Ogwen, Iola Gregory, Lowri Mererid, Olwen Rees, Delyth Eirwyn a Huw Davies ymhlith y cast.

“Mae Porthpenwaig yn ddrama gyfoes sy’n llawn cymeriadau cig a gwaed. Ro’n i’n benderfynol o ddangos bod cymdeithas cefn gwlad yr un mor gymhleth a lliwgar a bywyd dinas,” meddai Cefin, a fu tan yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.

“Mae tueddiad i bortreadu cefn gwlad fel lle lle mae pobol jest yn cyfri defaid a syllu ar y sêr. Ond mae cymdeithas wledig yn llawn o’r un ddrama go-iawn â bywyd dinesig - emosiwn, angerdd, cariad, torcalon, anffyddlondeb, cymhlethdod a hiwmor.”

Rhannu |