Teledu

RSS Icon
14 Awst 2014

Y Teimlad, beth yw Y Teimlad?

Ar nos Iau 28 Awst bydd S4C yn darlledu Prosiect Datblygu, ffilm ddogfen gan y cyfarwyddwr Owain Llŷr, sy'n edrych ar stori'r grŵp Datblygu.

Gan ddefnyddio cyfuniad o gyfweliadau newydd a chlipiau archif, mae’r ffilm yn olrhain y grŵp Datblygu o'r dechreuad hyd nes rhyddhau'r albwm Libertino yn 1993

Mae Prosiect Datblygu yn trafod sut y bu David R.Edwards, T.Wyn Davies a Patricia Morgan yn cicio'n erbyn y tresi yng Nghymru gyda'u cerddoriaeth amgen.

Sefydlwyd Datblygu gan David R.Edwards a'i gyfaill T.Wyn Edwards yn 1982 tra'r oedd y ddau’n ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, ac ymunodd Patricia Morgan â'r grŵp yn 1984.

Aeth y grŵp yn eu blaenau i ryddhau nifer o gasetiau, finylau ac albymau, yn ogystal â recordio pum sesiwn gyda’r DJ John Peel. 

Mae nifer yn cydnabod David fel bardd oherwydd ieithwedd ei ganeuon beiddgar, ac mae Y Teimlad a Cân i Gymry ymysg rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd y grŵp.

Fe wnaeth cynhyrchydd y ffilm Owain Llŷr, sy’n wreiddiol o Landysul, gwrdd â David R. Edwards pan oedd e’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi a’r canwr yn athro yno.

Ers blynyddoedd maith mae wedi bod yn freuddwyd ganddo i greu rhaglen ddogfen am Datblygu, yn edrych ar eu hanes a'u dylanwad.

Ond aeth Owain gam ymhellach  wrth gynhyrchu nid un ond dwy ffilm ddogfen sy'n adrodd hanes y grŵp chwedlonol ac yn 'hela enaid Datblygu' dri deg mlynedd ers sefydlu'r band: Prosiect Datblygu a Prosiect Datblygu A2. 

Meddai Owain, "Mae Prosiect Datblygu yn ffilm i'r ffans mwyaf ac i bobl sy' ddim yn gwybod pwy yw Datblygu, i ddod i ddeall eu hanes nhw, a'r ymateb gafon nhw fel grŵp, yn enwedig yng Nghymru.

“Mae Prosiect Datblygu A2 wedyn yn edrych ar hanes mwy diweddar y band, ac mae'n fwy tywyll. Ti'n sicr yn cael y stori bersonol a'r stori gerddorol yn y ddwy ffilm.”

Yn Prosiect Datblygu cawn glywed gan bobl sy'n ffrindiau gyda David, pobl fel yr actor a'r cerddor Gareth Potter, y troellwr Huw Stephens, cyd-gynhyrchydd albwm Libertino gan Datblygu Al Edwards, ac mae John Griffiths o Llwybr Llaethog hefyd yn siarad yn emosiynol iawn am y cyfnodau tywyll, anodd ym mywyd David.

Ym mis Mehefin eleni rhyddhaodd y grŵp mini albwm o'r enw ‘Erbyn Hyn’, dros dri deg mlynedd ar ôl rhyddhau eu halbwm gyntaf.

"Maen nhw'n un o'r bandiau sydd wedi cael y mwyaf o sylw ar draws y byd a hynny trwy ganu yn Gymraeg a dim ond yn Gymraeg. Mae'r teimlad 'na yng nghaneuon Datblygu, mae'n rhywbeth angerddol iawn ti'n ddeall heb orfod deall y geiriau."

"Mae'r geiriau a'r gerddoriaeth yn asio ond ti byth yn siŵr be ti am gael, mae'n wreiddiol ac yn wefreiddiol."

Prosiect Datblygu

Nos Iau 28 Awst 10.00, S4C

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Gwefan: s4c.co.uk

Cynhyrchiad Ap Bwcibo ar S4C 

Rhannu |