Teledu
Rasus Tregaron yn fyw ar S4C
Fe fydd S4C yn darlledu’n fyw o Ŵyl Trotian Tregaron ar benwythnos Gŵyl y Banc ar 22 a 23 Awst.
Mae gŵyl rasio harnes fwya’ Cymru yn dathlu dau ben-blwydd nodedig eleni a bydd tîm Rasus Tregaron ynghanol y dathlu a’r cystadlu gyda thros dair awr o deledu byw.
Mae’n 30 mlynedd ers i’r ŵyl symud i gaeau Dolrychain ger Pontrhydfendigaid. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd ras Clasur Cymru, sydd nawr yn un o rasus harnes mwyaf Prydain, gyda cheffylau a gyrwyr yn heidio o Iwerddon, Yr Alban, gogledd Lloegr a Chymru i geisio ennill y tlws.
Clasur Cymru fydd uchafbwynt y rasio byw nos Sadwrn, 23 Awst, tra mai Ffeinal Cwpan Ystrad Fflur fydd ras fawr rhaglen nos Wener, 22 Awst. Ond bydd y ddwy raglen yn llawn rasus byw eraill, uchafbwyntiau rhagrasus y ddau ddiwrnod, eitemau yn edrych yn ôl ar y tymor trotian hyd yma a llond gwlad o gyfweliadau difyr.
Ifan Jones Evans fydd yn cyflwyno’r wledd o rasus trotian, gyda Wyn Gruffydd yn arwain y sylwebaeth a Hywel Davies yng nghanol prysurdeb y bwcis a’r gyrwyr. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch.
Bydd modd i wylwyr geisio ennill £500 yn y gystadleuaeth Ras am Rif, gyda chyfle i gofrestru trwy ymweld â'r wefan, s4c.co.uk/rasus
Mae’r cyflwynydd Ifan Jones Evans yn byw o fewn ychydig filltiroedd i’r rasus ar dir fferm y teulu ym Mhontrhydygroes a dyw e ffaelu aros am y rasio.
"Mae’n un o ddigwyddiadau pwysica’r flwyddyn i bobl cefn gwlad Ceredigion, Cymru a thu hwnt," meddai Ifan, 29 oed, sydd yn gyflwynydd ar amrywiaeth o raglenni S4C ac yn DJ ar BBC Radio Cymru.
"Dwi ddim yn credu bod pobl yn y trefi a’r dinasoedd bob amser yn sylweddoli pa mor bwysig yw Rasus Tregaron i bobl cefn gwlad. Mae’n fwy na jest sport, mae’n ffordd o fyw. Mae wedi bod yn dymor da ar y borfa, ond yr ŵyl drotian hon yw’r uchafbwynt. Mae e’n rhyfeddol sut mae wedi datblygu, a hithau mor fawr â rasus Musselburgh yr Alban nawr."
Huw Evans yw Cadeirydd yr ŵyl. Mae e ynghanol yr holl drefnu a bydd ei blant Rhys ac Anwen ymhlith y llu o yrwyr sy’n cystadlu.
Meddai Huw Evans, “"Pan symudon ni i safle Dolrychain, doeddwn i byth wedi dychmygu y byddai’r ŵyl yn tyfu gymaint. Erbyn hyn mae dros 350 o geffylau yn cystadlu dros y tridiau mewn 40 o rasus ac mae’r digwyddiad yn denu pum mil o ymwelwyr. I rasus trotian, hwn yw Cheltenham y tymor, yr ŵyl sy’n denu’r ceffylau rasus trotian gorau ym Mhrydain ac Iwerddon."
Rasus Tregaron
Nos Wener 22 Awst 5.00, S4C
Nos Sadwrn 23 Awst 4.30, S4C
Sylwebaeth Saesneg ar gael
Gwefan: s4c.co.uk
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Slam Media ar gyfer S4C