Teledu

RSS Icon
26 Mehefin 2014

Ffilmio Under Milk Wood a Dan Y Wenallt yn Dechrau

Mae S4C, Goldfinch Pictures a Ffatti Films yn falch o gyhoeddi d wedi dechrau ar y gwaith o gynhyrchu fersiwn ffilm newydd o waith eiconig Dylan Thomas, Under Milk Wood, neu Dan y Wenallt yn Gymraeg. Mae’r ffilmio yn digwydd dros gyfnod o chwe wythnos yng Ngorllewin Cymru.

 

Cyfarwyddwr y ffilm yw Kevin Allen (Y Syrcas, the Amazing Spider-Man, Twin Town) gyda Rhys Ifans yn chwarae rhan y Llais Cyntaf a Capten Cat, a’r gantores Charlotte Church yn chwarae rhan Poli Gardis. Chwaraeir y rhannau eraill gan nifer o actorion Cymreig, gydag ymddangosiad arbennig gan ambell berson arall gan gynnwys Gareth Edwards a’r Arglwydd Kinnock.

 

Ysgrifennwyd y fersiwn hon ar gyfer y sgrin gan Murray Lachlan Young, Michael Breen a Kevin Allen. Dywedodd Kevin Allen: “Rydyn ni eisiau osgoi ail-greu fersiwn ddifflach a llythrennol o waith gwreiddiol Thomas, ond yn hytrach, yn awyddus i archwilio elfennau erotig yr is-destun gan chwarae gyda’r cyfoeth o gomedi sydd ynddi, a’r naws freuddwydiol hudolus sydd yn frith yn y darn - a gwneud hyn i gyd heb amharu ar swyn y geiriau gwreiddiol."

 

Fe gafodd drama iasoer Thomas, ‘Play for Voices’ sydd wedi ei lleoli yn nhref glan môr ddychmygol Llareggub ei pherfformio gyntaf yn y flwyddyn 1954. Mae Rhys Ifans sydd yn chwarae rhan y Llais Cyntaf yn chwarae’r un rhan a chwaraeodd Richard Burton yn yr unig ffilm hir a wnaethpwyd o Under Milk Wood yn 1972.

 

Fe fydd y cynhyrchiad yn cael ei ffilmio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dan y Wenallt fydd enw’r fersiwn Gymraeg gan T James Jones.

 

Fe ariennir y cynhyrchiad yn rhannol gan S4C, a thrwy strwythur SEIS wedi ei greu gan Golfinch Pictures, cangen o gwmni'r cyfrifyddion adloniant Nyman Libson Paul. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ffilm ddogfen am Thomas, a saethwyd yn ddiweddar ar gyfer Dylan 100 Centenary Celebrations gyda Rhys Ifans yn cyflwyno. Fe fydd rhaglen ddogfen hefyd yn cael ei saethu ar leoliad yn ystod y cyfnod ffilmio, lle ceir cyfle i ddilyn hynt a helynt y digwyddiadau y tu ôl i’r camera.

 

Fe gynhyrchir y ffilm gan Kevin Allen, Rhys Ifans a Stephen Malit (Hec McAdam, London – The Modern Babylon). Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth yw Andy Hallis (Absolutely Fabulous, Black Books, The Fast Show), Cynllunydd y Cynhyrchiad yw Marie Lann (Another Me, Offender) a’r Cynllunydd Gwisgoedd yw Charlotte Mitchell (Y Syrcas, Belle, I Anna).

Rhannu |