Teledu

RSS Icon
29 Mai 2014

Actores sydd ar y donfedd iawn mewn comedi newydd

Mae un o gymeriadau’r gyfres gomedi newydd ar gyfer plant ar S4C yn gwybod yn iawn beth yw’r sialens o redeg gorsaf radio.

Mae’r actores Carol Burke, sy’n chwarae rhan Betsan yn y gyfres FM, yn helpu rhedeg gorsaf radio yn y brifysgol ym Mangor.

Mae’r gyfres gomedi newydd i blant FM yn parhau ar S4C bob dydd Iau am 6 – a chaiff gwylwyr Stwnsh ddilyn criw gorsaf Radio Ffrwd y Môr, lle mae popeth yn mynd o chwith.

Yn FM cawn ddod i nabod myfyrwyr hwyliog Cwrs y Cyfryngau Ysgol Ffrwd y Môr sy’n rheoli pob cynllun, ymweliad a digwyddiad ar yr orsaf ac yn cael llond gwlad o droeon trwstan.

Mae Caryl Burke, sy’n 22 oed, ac yn dod o Borthmadog yn gallu cydymdeimlo â’i chymeriad Betsan, gan ei bod hi ei hun yn rheoli Gorsaf Prifysgol Bangor ac yn cyflwyno rhai o raglenni’r orsaf.

“Dw i’n rheoli gorsaf yn y Brifysgol, dw i’n rheoli pobl yn fwy na dw i’n rheoli’r stesion, a dw i’n cyflwyno sioeau ar b’nawn dydd Mercher. Ond mae’r orsaf yma yn llawer mwy trefnus na gorsaf Ffrwd y Môr,” dywed Caryl.

Dyma ran actio cyntaf Caryl ar y teledu, sydd newydd raddio ym Mhrifysgol Bangor gyda gradd mewn Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.

Mae actio yn FM wedi rhoi blys iddi hi actio mwy; “dyma fy mhrofiad actio cynta’ i, a dw i eisiau gwneud mwy!” meddai.

Mae Betsan yn gymeriad hoffus, ond does dim llawer o synnwyr cyffredin ganddi. Mae hi’n rhoi 100% o ymdrech i bopeth, ac mae hi’n dweud pethau doniol.

“Mae ‘na fwy na ‘sŵn i’n licio cyfaddef o debygrwydd rhyngom ni. Dw i’n meddwl bod pawb yn gallu bod yn Bestan weithiau, dydi hi ddim yn gwybod be sy’n mynd ‘mlaen o’i chwmpas hi Ond dw i’n gobeithio mod i’n glyfrach na hi! Mae hi’n trio cant y cant, mae hi’n gyfeillgar, ac mae hi’n hapus o hyd,” dywed Caryl, sy’n gyn ddisgybl yn ysgolion Eifion Wyn ac Eifionydd ym Mhorthmadog.

Yn ystod y gyfres bydd digon o straeon cyffrous i gadw diddordeb y gwyliwr, yn ôl Caryl, sydd wedi mwynhau'r broses actio.

“Mae’r cymeriadau i gyd yn reit hoffus, ac maen nhw i gyd yn dod a rhywbeth gwahanol i’r sioe, Mae’n gyfres rili ddoniol, ac mi gawson ni lot o hwyl yn ffilmio.”

FM

Bob nos Iau 6.05, S4C

Gwefan: s4c.co.uk
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C 

Rhannu |