Teledu
Twm ar drywydd Dafydd y Garreg Wen
BYDD y bardd lliwgar Twm Morys yn mynd ar drywydd un o alawon a chyfansoddwyr enwocaf Cymru yn y gyfres Pethe ar nos Fawrth (9.30pm).
Mae ymdrech Twm Morys i fynd i’r afael â dirgelwch y gân werin Dafydd y Garreg Wen yn un o nifer o uchafbwyntiau yn y rhaglen. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys eitemau difyr am ddysgwyr Cymraeg sy’n ysgrifennu yn eu hiaith fabwysiedig ac am y cerddor Tudur Huws Jones.
Mae’r alaw Dafydd y Garreg Wen yn gyfarwydd i lawer ohonom. Fe gafodd ei chyfansoddi gan David Owen a oedd yn byw ar fferm y Garreg Wen, Morfa Bychan ger Porthmadog, nid nepell o gartre Twm yn Llanystumdwy.
Ond mae Twm, sy’n delynor a chanwr adnabyddus yn ogystal â bod yn fardd cadeiriog, wedi dangos diddordeb byw yn yr alaw ers blynyddoedd. Mae’n darganfod bod yna sawl dirgelwch ynglŷn â hanes awdur y dôn.
Meddai Twm: “Mae ansicrwydd ynglŷn â dyddiad ei eni. Mae rhai’n credu mai eleni y dylem ddathlu trichanmlwyddiant geni Dafydd Owen, tra mae eraill yn dweud mai yn 1721 y cafodd ei eni. Mae’r ddau gyfeirlyfr pwysig, Cydymaith i Lenyddiath Cymru a’r Gwyddoniadur yn anghytuno ar hyn.”
Bydd Twm yn chwilio am y Garreg Wen – y tŷ a’r garreg – ac yn canu’r alaw. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, bydd yn olrhain hanes y geiriau a osodwyd ar yr alaw wreiddiol, gan fynd i weld bedd Dafydd.