Teledu

RSS Icon
04 Ebrill 2014

Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd

Mae’r gyfres dditectif arloesol Y Gwyll / Hinterland yn dychwelyd i’r sgrin. Mae’r partneriaid darlledu S4C a BBC Cymru Wales yn falch o gyhoeddi y bydd gwaith yn cychwyn ar gyfres newydd bum-rhan ym mis Medi 2014.

Bydd Richard Harrington yn dychwelyd i rôl DCI Mathias wrth i’r gyfres ddychwelyd  yn ystod diwedd 2014 / dechrau 2015. Bydd Richard yn dychwelyd at y tîm sy’n cynnwys y cyd-grewyr Ed Talfan ac Ed Thomas, a’r cynhyrchydd Gethin Scourfield.

Bydd y gwaith ffilmio yn dechrau yng Ngheredigion yn ystod yr hydref gyda’r gyfres eto’n cael ei ffilmio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y dosbarthwyr All3Media International yn gofalu am y gwerthiannau rhyngwladol.

Meddai Ed Thomas, Cynhyrchydd Gweithredol gyda chwmni Fiction Factory yng Nghaerdydd: "Rydym wrth ein boddau bod S4C a BBC Cymru Wales wedi penderfynu parhau ar y siwrne gyffrous hon gyda ni. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddarllediad y gyfres gyntaf ar BBC Four. Mae’r prosiect yn dathlu talent o Gymru mewn sawl ffordd ac  i ni wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd gydag ail gyfres."

Meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd: “O’r dechrau roeddem ni’n gwybod bod Y Gwyll / Hinterland yn mynd i fod yn brosiect arbennig ac mae’n bendant wedi cydio yn nychymyg gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt, ac yn parhau i wneud wrth i’r gyfres gael ei darlledu ar Sianeli eraill. Mae’n wych cael cyhoeddi bod Y Gwyll / Hinterland yn dychwelyd gydag ail gyfres wrth i ni barhau i weithio gyda’n partneriaid cyd-gynhyrchu All3Media International, Tinopolis ac wrth gwrs, y criw yn Fiction Factory. 

“Gyda BBC Cymru Wales yn ymuno â ni fel cyd-gynhyrchwyr ar yr ail gyfres hefyd, gall y gynulleidfa edrych ymlaen at gyfres newydd o Y Gwyll / Hinterland – sy’n golygu mwy o dyndra, cynllwynio a chyfrinachau mewn lleoliad godidog yng Ngheredigion, a rhagor o gliwiau am broblemau a gofidion DCI Mathias, y dyn sydd wrth galon y gyfres afaelgar hon.”

 Meddai Adrian Davies, Pennaeth Rhaglenni Saesneg BBC Cymru Wales: “Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth gyda S4C eto i gomisiynu ail gyfres o Hinterland ac yn hyderus y bydd hi’n adeiladu ar lwyddiant y gyfres gyntaf. Llwyddodd Hinterland i dorri tir newydd ymysg cynulleidfaoedd BBC One Wales gyda deialog ddwyieithog, straeon cryf a golygfeydd godidog. Ac roedd ymateb y gynulleidfa i’r gyfres gyntaf yn hynod o gadarnhaol.

"Rwy’n siŵr y bydd y darllediad ar BBC Four cyn hir yn arwain at ymateb yr un mor ffafriol gan y gynulleidfa - fydd yn ychwanegu at y cyffro wrth i ni aros am y penodau cyffrous nesaf.”

 Meddai Louise Pedersen o ALL3MEDIA International: “Mae’n glod i’r tîm creadigol a’r comisiynwyr Cymreig bod y gyfres wedi gwneud argraff  mor gryf a phositif ar ddarlledwyr ar draws y byd ac rydym ni’n sicr y bydd y penodau newydd yn creu rhagor o gyfleoedd i’r sioe.” 

Mae hi eisoes wedi’i chadarnhau bod BBC Four a DR o Ddenmarc  wedi prynu’r  gyfres, ac mae ALL3MEDIA International mewn trafodaethau gyda darlledwyr eraill tu hwnt i Brydain ar hyn o bryd.

Rhannu |