Teledu

RSS Icon
27 Chwefror 2014

Darlun o arwr tawel pêl-droed Cymru

Osian Roberts yw DNA pêl-droed Cymru. Ond hyd yn oed heddiw, ac yntau wedi bod wrth ochr dau o reolwyr Cymru Gary Speed a Chris Coleman, mae gan Gyfarwyddwr Technegol Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru broffeil cymharol isel.

Mewn cyfres newydd bedair rhan ar S4C, Byd Pêl-droed Osian Roberts, sy’n dechrau Ddydd Llun 10 Mawrth, cawn ddod i nabod yr hyfforddwr a’r sylwebydd craff. Mae’n bortread difyr o ddyn yn byrlymu’n dawel o falchder, angerdd a gweledigaeth ar gyfer y gêm brydferth yng Nghymru.

Mae'r cynhyrchydd Arwyn Williams o Rondo Media wedi bod yn dilyn Osian, 48 oed, o Gaerdydd, dros y 18 mis diwethaf ac yn y gyfres S4C bydd gwylwyr yn cael darlun o hanes pêl-droed Cymru yn y cyfnod anodd yn dilyn marwolaeth drasediol Gary Speed ym mis Tachwedd 2011. Mae'r daith yn ein tynnu ledled Ewrop gyda thîm cenedlaethol Cymru yn ystod ymgyrch grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd diwethaf, i bob cwr o Gymru yn ei rôl fel hyfforddwr timau iau Cymru, adre’ i Ynys Môn a draw i Dde Carolina, UDA lle dechreuodd ei yrfa bêl-droed yng nghanol y 1980au.

Cafodd camerâu S4C fynediad i ystafelloedd newid a chanolfannau hyfforddi tîm pêl-droed Cymru a’r Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol newydd yng Nghasnewydd. Mae Osian Roberts yn siarad yn onest am ei gyfeillgarwch â Gary Speed a'i edmygedd am ei olynydd Chris Coleman.

Meddai’r cynhyrchydd Arwyn Williams: “Osian yw arwr tawel pêl-droed Cymru. Gan ei fod yn ymwneud â chymaint o agweddau ar y gêm, ac yn ganolog i’r holl hyfforddiant technegol ar bob lefel, mae'r rhaglen hon yn ddarlun o bêl-droed Cymru o lawr gwlad i’r tîm cenedlaethol yn ogystal â bod yn bortread o Osian.”

Wedi ei fagu ym Modffordd, Ynys Môn, mae pêl-droed yn pwmpio yn ei wythiennau. Ac yntau’n bêl-droediwr ifanc talentog ac yn gapten tîm Ysgolion Cymru, derbyniodd Ysgoloriaeth Pêl-droed yn 1985, i astudio am radd mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Furman yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau. Aeth yn ei flaen i chwarae yng Nghyngrair Pêl-droed Proffesiynol America cyn cael ei ddewis fel Rheolwr Chwaraewr y New Mexico Chiles ac yntau ond yn 27 mlwydd oed.

“Mae pobl yn aml yn gofyn imi a fyddwn yn cael fy nhemtio i ddod yn ôl i hyfforddi yn yr Unol Daleithiau. Roedd yn brofiad y gall neb gymryd oddi wrtha i ac wrth imi ymweld â’r wlad eto, mi oeddo’n demtasiwn, ond does dim yn rhoi mwy o hapusrwydd  imi na gwasanaethu fy ngwlad,” meddai Osian.

Mae Cymru wedi ei chael hi'n anodd ar lefel ryngwladol yn ddiweddar, ond am wlad fach, rydyn ni’n cynhyrchu llawer iawn o dalent pêl-droed. Osian sy’n gyfrifol am gryn dipyn o’r llwyddiant yma gan fod chwaraewyr a hyfforddwyr ar bob lefel wedi elwa ar ei allu fel hyfforddwr.

Mae un o gewri pêl-droed Ffrainc, yr amddiffynnwr Marcel Desailly, a enillodd fedal Cwpan y Byd, wedi elwa ar ddoethineb Osian ar gyrsiau Pro-Drwydded yn y ganolfan hyfforddi newydd yng Nghasnewydd.

Meddai Marcel Desailly, “Mae gan Osian obsesiwn â’r  gêm – mae ganddo ymroddiad 24 awr i’r gamp. Mae'n angerddol am y gêm ac yn gallu cyfleu’r angerdd yma. I rywun fel fi, nad oedd yn siŵr a oedd am fynd i’r byd hyfforddi ar ôl gyrfa pêl-droed lwyddiannus, roedd bod gydag Osian yn agoriad llygad.”

 

Byd Pêl-droed Osian Roberts

Nos Lun  10 Mawrth 9.30pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk  Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |