Teledu
Clinic iechyd i bobl mewn trelar ceffylau
MAE actor Cymraeg y ffilmiau Harry Potter newydd ddychwelyd o daith i Ddenmarc i ddarganfod sut mae un o allforion enwocaf Cymru yn cael ei ddefnyddio dramor.
Fe ymwelodd Steffan Rhodri ag arbenigwr marchogaeth sy’n defnyddio trelar ceffylau Ifor Williams fel clinig iechyd symudol – nid i drin ceffylau, ond i drin marchogwyr!
Roedd yr ymweliad â Ddenmarc yn rhan o daith yr actor sydd wedi dod yn enw rhyngwladol wedi ei bortread o Dave Coaches ar y gyfres gomedi Gavin & Stacey a’i ran yn ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows, i chwilio am y pethau hynny o Gymru sy’n cael eu gwerthu a’u defnyddio ar draws y byd. Fe fydd y gyfres, O Gymru Fach , i’w gweld ar S4C y mis hwn.
Mae gan gwmni Ifor Williams Trailers rwydwaith o 100 o ddosbarthwyr ar draws y byd, yn cynnwys rhai mor bell ag Awstralia a Seland Newydd. Ar ôl ymweld â llawr ffatri’r cwmni yng Nghorwen, fe deithiodd Steffan i gyfarfod â Sos Fejerskov-Quist, hyfforddwr ioga sydd wedi gwirioni ar geffylau, yn ei chartref ger Copenhagen i ddysgu mwy am ei busnes, Fit To Ride .
Mae’r gyn-athrawes Bioleg a Gymnasteg yn defnyddio amrywiaeth o driniaethau arbenigol, yn cynnwys ioga, aciwbwysedd a thechnegau anadlu, i drin marchogwyr a’u hanafiadau. A’i chlinig ydi trelar ceffylau arian gan gwmni Ifor Williams Trailers!
Fel rhan o’r gwaith ffilmio, rhoddodd Sos archwiliad iechyd trylwyr i Steffan ei hun, a deithiodd ar gefn ceffyl o ogledd i dde Cymru er budd elusen ganser dair blynedd yn ôl.
“Trwy ofyn i Steffan sefyll ar ddwy glorian wahanol, fe welson ni nad yw e’n dosbarthu ei bwysau’n gyfartal rhwng y ddwy droed pan fydd yn sefyll. Roedd yn rhyfeddu pan ddywedais wrtho fod yna wahaniaeth o ryw bum pwys,” meddai Sos.
“Cafodd anaf i’w goes yn y gorffennol ac rwy’n meddwl ei fod yn gwneud iawn am hynny trwy roi mwy o bwysau ar un ochr ond roedd yn synnu pan welodd ei fod yn rhoi cymaint o bwysau arni.”
Iddi hi, mae trelar ceffylau Ifor Williams yn gwneud y job i’r dim.
“Mae mor hawdd i’w ddefnyddio ac mae cymaint o le i’m pethau i gyd yn y trelar,” meddai. “Mae’n hynod o aml-bwrpas hefyd, achos rwy’n gallu gostwng y ramp a gwahodd pobol i mewn i weld beth rwy’n ei wneud.
“Ond wedyn, y cyfan sy’n rhaid i mi wneud yw codi’r ramp, ac mae gen i le cwbl breifat ar gyfer trin pobl. Mae’n berffaith ar gyfer fy anghenion, a dweud y gwir.”
I’r actor o Gymro sy’n chwarae rhan Reginald Cattermole sy’n gweithio i’r Weinyddiaeth Hud yn y ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows , roedd yn brofiad gwerthfawr iawn.
“Fe dreuliodd Sos amser yn fy helpu i gywiro fy osgo, ac fe wnes i’r gorau o rai o’r offer sydd ganddi yn y trelar,” meddai Steffan Rhodri, “yn cynnwys ei chadair Balimo, dyfais arbenigol tebyg i stôl sy’n annog pobl i eistedd yn gywir ac yn gytbwys. Ro’n i’n hoffi’r gadair yn fawr, ac fe fydden i wedi dod â hi gartre’ gyda fi pe medrwn i, gan fy mod i’n teimlo mor dda ar ôl ei defnyddio.”