Teledu

RSS Icon
16 Ionawr 2014

Tafarn y Saith Seren, y clwb pêl droed a'r cwrw – hanes pobl Wrecsam

Yn y gyfres ddogfennol newydd Wrecsam 'di Wrexham, cawn olrhain hanes adfywiad tref fwyaf gogledd Cymru.

"Ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd Wrecsam wedi colli ei identity bron oherwydd bod y clwb pêl-droed mewn perygl go iawn, y lager wedi mynd, a'r Saith Seren, un o adeiladau mwya' adnabyddus y dref ar gau, meddai Marc Jones, Cyfarwyddwr Cydweithredol Canolfan Gymraeg a Thafarn y Saith Seren.

Ond mae'r sefyllfa yn dra gwahanol heddiw gyda sefydlu Canolfan Gymraeg gydweithredol y Saith Seren, ail agor bragdy Wrexham Lager ac wrth gwrs, achub y clwb pêl-droed. A phwy gwell i adrodd yr hanes na rhai o gymeriadau tref Wrecsam?

Un o'r Wyddgrug yw Marc Jones yn wreiddiol, ond mae'n byw yn Wrecsam ers 30 mlynedd, ac mae'n gynghorydd lleol yn ogystal ag un o hoelion wyth canolfan a thafarn y Saith Seren a agorwyd dwy flynedd yn ôl.

"Ro' ni'n meddwl 'sa'n syniad da cael canolfan Gymraeg yn y dref ac roedd lot yn meddwl yr un ffordd, felly daeth criw ohonom ni at ein gilydd i sefydlu'r pwyllgor a chwe mis wedi i ni lansio'r apêl roedden ni'n agor drysau'r Saith Seren."

"Mae yna o leiaf un digwyddiad Cymraeg byw yma bob mis; cylch Ti a Fi; sesiynau dysgwyr dwywaith yr wythnos; mae gan y fenter iaith leol swyddfa fyny'r grisiau; mae 'na gigs Cymraeg yn cael eu cynnal yma ac mae 'na dros 30 awr o wersi Cymraeg yn digwydd yma bob wythnos hefyd. Ers i ni agor mae yna fwy o ddigwyddiadau Cymraeg mewn llefydd eraill hefyd - mae o'n fwrlwm cynyddol yn y dref."

Bachodd trigolion Wrecsam ar gyfle arall ddwy flynedd yn ôl hefyd gan sefydlu Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam ac achub eu clwb pêl-droed - yr hynaf yng Nghymru. Cawn glywed gan rai aeth ati i sefydlu’r ymddiriedolaeth a dilyn hynt a helynt y tîm wrth i'r camerâu gael mynediad i ystafelloedd newid y tîm hyd yn oed!

"Mae'r bobl a'r gymuned wedi profi bod 'na ffordd well o wneud pethau," meddai Marc. "Bron i'r clwb pêl droed gael ei chwalu gan bobl busnes, a chaewyd Wrexham Lager gan gwmni rhyngwladol. Pobl ddiarth oedd ddim yn deall y traddodiadau lleol."

Ond mae pobl Wrecsam wedi torchi llewys a mynd ati i godi'r darnau, ac erbyn hyn mae modd codi peint o Wrexham Lager wrth y bar hefyd, diolch i un teulu lleol. Mae Gwyn Roberts, sy'n rhedeg siop sglodion yn Wrecsam ers blynyddoedd bellach hefyd wedi adfywio Wrexham Lager gyda chymorth ei feibion, Mark a Vaughan Roberts. Cawn ddilyn y tri wrth eu gwaith a gweld eu cyfraniad nhw at adfywiad y dref.

Bydd criw'r Saith Seren, criw'r clwb pêl-droed a chriw Wrexham Lager yn agor eu drysau a'u calonnau ar Wrecsam 'di Wrexham, a bydd cyfle i chi glywed eu hanes.

Wrecsam 'di Wrexham

Nos Iau 30 Ionawr 8.25, S4C

Gwefan: s4c.co.uk
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |