Teledu

RSS Icon
02 Ionawr 2014

Dangos Defaid a Dringo eto i ddathlu'r gwobrau

Bydd S4C yn dangos y rhaglen ddogfen Defaid a Dringo unwaith eto ar nos Fercher, 8 Ionawr (10.30pm) ar ôl iddi ennill ei phedwaredd wobr fawr mewn gwyliau dringo rhyngwladol yn ddiweddar.

Mae’r rhaglen ddogfen S4C Defaid a Dringo yn dilyn blwyddyn ym mywyd y dringwr ifanc o Fethesda, Ioan Doyle.

Mae Defaid a Dringo wedi ennill yng nghategori’r ffilm orau am amgylchedd y mynydd yng ngŵyl ffilm Kendal yng ngogledd Lloegr; yng nghategori Dringo ar Greigiau a Rhew yng ngŵyl ffilm Graz yn Awstria, y ffilm orau yng nghategori Diwylliant Mynydda yng ngŵyl Ffilmiau Torello yng Nghatalonia; ac yng nghategori Natur a'r Amgylchedd yng Ngŵyl Ffilmiau Mynydd Ffrainc. 

Meddai Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C, Llion Iwan:“Camp aruthrol Defaid a Dringo yw ei bod yn gweithio ar sawl lefel - mae'n stori gynnes iawn sy'n adrodd stori am ffordd o fyw ac ar yr un pryd yn cyfleu’r tensiwn sy'n bodoli rhwng dilyn y freuddwyd a gorfod ennill bywoliaeth.

“Mae’r gwobrau yma’n dangos ei bod yn drawiadol ar lefel fwy arbenigol hefyd ac yn apelio at gynulleidfa sy'n wybodus iawn am ddringo a mynydda. Mae'n cynnwys golygfeydd anhygoel a fydd yn aros yn hir yn y cof i'n gwylwyr.”

“Rydym ni’n bendant yn gobeithio y bydd modd i ni wneud mwy gydag Ioan yn y dyfodol.”

Mae’r llanc 23 oed o Ddyffryn Ogwen bendant yn gwybod sut i roi ei feddwl ar brosiect a’i chyflawni; mae’n ddringwr hyd at raddfa E7, ac mae bellach wedi cychwyn busnes ei hun yn walio ac yn gwneud gwaith amaethyddol ar ffermydd ledled gogledd Cymru.

Mae Defaid a Dringo yn ei ddilyn wrth iddo wynebu heriau amrywiol bywyd felly, ar y creigiau, ac wrth geisio ennill cyflog ar lethrau Eryri.

Meddai Ioan Doyle, “Mae’r ffilm wedi mynd i lawr yn grêt! Dwi’n meddwl efallai mai’r rheswm am hynny ydy bod llawer o ffilmiau am ddringo a mynydda fel arfer yn rhai i’r elit, ond mae Defaid a Dringo yn rhoi cip i bobl eraill i mewn i’r byd yna, ac yn dangos y gall unrhyw un wneud o os ydi o’n rhoi ei feddwl arno.”

Ac meddai’r cyfarwyddwyr Alun Hughes, “Mae’n dangos 'pŵer' Ioan ar y sgrin. Mae'r gallu ganddo i swyno'r gynulleidfa. Mae'r gwobrau yma i gyd yn bwysig imi, yn enwedig yr un o Kendal, y fwya’ yn Ewrop ac felly gyda'r goreuon i gyd yn cystadlu yno.”

Llun: Ioan Doyle

Rhannu |