Teledu

RSS Icon
01 Tachwedd 2013

Dathlu ein gwreiddiau gwerinol: Gŵyl Cerdd Dant 2013

 sain tannau'r delyn yn dal i ganu yn ein clustiau ers cyngerdd agoriadol Gŵyl Gerddoriaeth Byd WOMEX, mae cerddoriaeth werin a thraddodiadol yn parhau i fynnu ein sylw wrth i ni edrych ymlaen at Gŵyl Cerdd Dant 2013.

Bydd S4C yn dod â holl gyffro a chystadlu'r Ŵyl yn fyw o Neuadd Pontrhydfendigaid ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, a bydd Talwrn yr Ŵyl hefyd i'w weld ar y Sianel y noson ganlynol.

Mae'n siŵr bod Elin Llwyd eisoes yn wyneb cyfarwydd i chi gan ei bod yn arfer chwarae rhan Katie ar Pobol y Cwm, yn cyflwyno Tag, rhaglen gylchgrawn S4C i bobl ifanc, ac yn actio yn y gyfres boblogaidd Gwaith Cartref. Ond eleni mi fydd Elin yn ymuno â thîm cyflwyno'r Ŵyl Gerdd Dant am y tro cyntaf ac mae'n edrych ymlaen yn fawr.

"Dwi wrth fy modd 'mod i'n mynd i fod yn cyflwyno o'r Ŵyl eleni," meddai'r ferch o Gaerfyrddin fydd yn ymuno â Nia Roberts, Trystan Ellis-Morris a Branwen Gwyn i ddod â'r gorau o'r gwerinol i S4C yn ystod Gŵyl Cerdd Dant 2013.

"Mae'n siŵr bod cerdd dant ymysg y genre cyntaf o gerddoriaeth i fi ganu. Nia Clwyd Davies oedd fy athrawes ganu gyntaf, ers 'mod i'n 8 oed, ac wrth gwrs, mae Nia yn arbenigwraig yn y maes ac felly wedi trwytho'i disgyblion i gyd, gan gynnwys fi, yn drylwyr ym myd y canu cerdd dant.

"Dwi wedi cystadlu yn flynyddol ym mhob 'Steddfod yr Urdd, Genedlaethol a'r Ŵyl Gerdd Dant, yn unigol ac fel rhan o amryw o bartïon a chorau, ac wedi bod yn ddigon ffodus i ddod i'r brig sawl gwaith. Dwi dal yn mwynhau canu cerdd dant, ac yn wir, cystadlu yn y maes - gyda Chôr Merched y Ddinas a pharti Criw Caerdydd yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol dros yr ychydig flynyddoedd d'wetha. Felly a finne yn canu ers cyhyd mi fydd hi'n brofiad reit arbennig i mi."

Â'r gantores Cerys Matthews newydd ddatgan y dylem ni fel Cymry ymfalchïo yn ein gwreiddiau gwerinol bydd Gŵyl Cerdd Dant 2013 yn gyfle gwych i wneud hynny.

"Mae cerdd dant mor unigryw i ni fel cenedl felly mae'n bwysig i ni ei chefnogi a'i gwarchod, yn ogystal â'r cystadlaethau eraill fydd i'w mwynhau ar y diwrnod, gan gynnwys y canu a'r dawnsio gwerin," esbonia Elin.

"Mae traddodiad gwych o eisteddfota yn y Bont, ac o ystyried brwdfrydedd gwirfoddolwyr lleol i sicrhau adnewyddu'r adeilad hanesyddol nôl yn 2007, a'r Ŵyl lwyddiannus nôl ym 1989, dwi'n siŵr y bydd yr ardal yn falch iawn o weld yr Ŵyl yn dychwelyd am y trydydd tro, ac y byddant yn groesawgar a chefnogol tu hwnt, yn ôl eu harfer. Ond heb wylwyr, gwrandawyr a chystadleuwyr, amhosib fydd sicrhau dyfodol a pharhad i'r traddodiade yma, ac yn wir, yr Ŵyl, felly gwyliwch, cefnogwch a mwynhewch!"

A chofiwch am Talwrn yr Ŵyl fydd yn dod o'r Neuadd Fach ger Pafiliwn y Bont. Y Prifardd Tudur Dylan Jones fydd yn cadw trefn ar feirdd Ffair Rhos, tîm y Rhelyw, tîm Ffostrasol a thîm Llandudoch. Gwyliwch y frwydr farddonol ar S4C nos Sul 10 Tachwedd.

Gŵyl Cerdd Dant 2013
Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 12.30pm ac 8.00pm, S4C
Gwefan: s4c.co.uk Ar alw: s4.co.uk/clic
Cynhyrchiad Rondo a Telesgop ar gyfer S4C

Talwrn yr Ŵyl
Nos Sul 10 Tachwedd, 7.15pm, S4C

Uchafbwyntiau'r Ŵyl
Nos Sul 17 Tachwedd, 8.30pm 

Rhannu |