Teledu

RSS Icon
08 Awst 2013

Rhaglen deledu arloesol yn estyn allan i blant ledled Cymru

Mae lansio deunyddiau addysgu arloesol yn y Gymraeg er mwyn helpu plant sydd ag anghenion cyfathrebu arbennig wedi cael ei ganmol fel “cam pwysig ymlaen.”

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler, roedd darparu adnoddau dysgu Makaton yn y Gymraeg yn 'fater o gydraddoldeb' oedd yn mynd i'r afael â 'diffyg yn y ddarpariaeth'.

Rhaglen iaith yw Makaton sy'n defnyddio iaith lafar, arwyddion a symbolau i annog cyfathrebu. Caiff y system ei defnyddio gan fwy na 100,000 oedolion a phlant, llawer ohonynt ag anawsterau dysgu.

Mae'r pecynnau addysgu Cymraeg newydd wedi cael eu datblygu gan elusen Makaton a’r cynhyrchydd teledu llwyddiannus Nia Ceidiog, y mae ei rhaglen Dwylo'r Enfys, sy’n ymddangos ar wasanaeth Cyw S4C, yn defnyddio Makaton.

Yn gynharach eleni, cyrhaeddodd y gyfres arloesol restr fer Gwobr Rockie yng Ngŵyl Gyfryngau’r Byd yn Banff, Canada.

Ar ben hynny, datgelwyd yn ddiweddar bod y rhaglen yn y ras am wobr BAFTA Cymru yn y categori ar gyfer rhaglen blant orau.

Wrth siarad yn y lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych dywedodd y Comisiynydd Keith Towler: “Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i blant Cymraeg eu hiaith, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

“Mae datblygu adnoddau Cymraeg ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anawsterau cyfathrebu yn fater o gydraddoldeb a hawliau plant.

“Mae unrhyw ddatblygiad sy'n mynd i'r afael â’r diffyg yn y ddarpariaeth er mwyn galluogi plant i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg i’w groesawu.”

Dywedodd Nia: “Bûm yn gweithio gydag Elusen Makaton gyda chymorth cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru er mwyn creu adnoddau hyfforddi i hyrwyddo gwaith Elusen Makaton yng Nghymru.”

“Mae'r rhain yn adnoddau hyfforddi ar gyfer Makaton yn y Gymraeg. Mae'r gyfres Dwylo'r Enfys sy’n ymddangos ar Cyw yn hanesyddol, yn yr ystyr mai dyma'r tro cyntaf i Makaton gael ei defnyddio yn gyhoeddus yng nghyd-destun y Gymraeg ac roedd yn llwyddiant ysgubol.

“Fe wnaethon ni ac Elusen Makaton gyflwyno cais ar y cyd am gyllid oddi wrth  Lywodraeth Cymru a buom yn ddigon ffodus i lwyddo yn ein cais, felly rydym wedi cynhyrchu rhai llawlyfrau hyfforddi ar gyfer hyfforddwyr – sef y bobl sy’n hyfforddi rhieni, gofalwyr, athrawon, a therapyddion lleferydd – er mwyn lledaenu’r defnydd o Makaton yn y Gymraeg.

“Rydym hefyd wedi cynhyrchu dau DVD, mae un yn arddangos arwyddion Makaton ac mae'r llall yn cynnwys sawl stori yn dangos Makaton yn cael ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a chydag oedolion.

“Rhan o hyn fydd sefydlu gwefan o'r enw Arwydd. Bydd hyn yn rhywle lle gall rhieni ac ymarferwyr ei ddefnyddio. Bydd yn cynnwys hanesion am y bobl sy'n defnyddio Makaton ac am eu taith gyda'u plant, a bydd rhai ohonynt ag anghenion arbennig.

“Rydym wedi lansio’r deunydd yn yr Eisteddfod a bydd y wefan a'r deunyddiau yn barod ym mis Medi pan fydd cyrsiau Makaton ar gael i bobl eu defnyddio yn y Gymraeg.

“Mae’n debyg mai’r ffordd orau i bobl gael gafael ar wybodaeth am y cyrsiau yw trwy gysylltu ag Elusen Makaton drwy fynd i’w gwefan (www.makaton.org), ac yna fe ddylen nhw allu gael gwybod am diwtoriaid Makaton yn eu hardal. Neu os ydynt eisoes yn defnyddio Makaton gallent gysylltu â'r athro Makaton neu'r ysgol yn eu hardal.

“Mae system Makaton yn hynod o effeithiol i blant ac oedolion, ond cyn hyn nid oedd dewis gan blant o deuluoedd Cymraeg ond dysgu Makaton yn Saesneg gyda thiwtoriaid a oedd yn gorfod defnyddio adnoddau cyfrwng Saesneg, wedi’u cyfieithu. Bellach gellir eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddefnyddio cyfeiriadaeth Gymraeg.”

Cafodd lansiad yr adnoddau Makaton ei gynnal ar ddydd Mercher yn stondin Llywodraeth Cymru, gyda’r Keith Towler, y Comisiynydd Plant, a Sioned Roberts o S4C hefyd yn bresennol.

Cyflwynwyd y lansiad gan un o sêr Dwylo'r Enfys, sef Heulwen - Ceri Bostock o Gaernarfon, ac yn ystod y digwyddiad cafwyd canu ac arwyddo gan blant sy’n defnyddio Makaton a hefyd cyflwyno’r pecyn Makaton newydd.

Fe wnaeth cyfres Dwylo'r Enfys - a gynhyrchwyd gan Nia ar gyfer Cyw ar S4C - gyflwyno Makaton i blant bach yn y Gymraeg am y tro cyntaf y llynedd.

Bob wythnos bu Dwylo'r Enfys yn ymweld â phlant ag anghenion arbennig ledled Cymru.

“Mae Dwylo'r Enfys yn denu un o'r cynulleidfaoedd mwyaf ar gyfer rhaglenni Cyw, ac mae'n hynod o lwyddiannus. Mae plant, gydag anghenion cyfathrebu neu beidio, yn mwynhau arwyddo ac mae angen brodyr, chwiorydd a ffrindiau i ymuno er mwyn cael cyfathrebu dwy ffordd,” dywedodd Nia.

“Rydym newydd gwblhau cyfres newydd 13 rhaglen o Dwylo’r Enfys, a fydd yn cael ei darlledu ym mis Medi, a gobeithio bydd y rhaglen yn rhoi cyhoeddusrwydd ychwanegol i’r pecyn adnoddau Makaton.

“Bydd 13 o blant ag anghenion cyfathrebu arbennig yn mynd â Heulwen ar bob math o anturiaethau - er enghraifft, ymweliad â'r Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle, Sw Mynydd Bae Colwyn a Pharc Gwledig Heatherton yn Sir Benfro.”

Roedd rhai  o sêr y gyfres yno i helpu lansio'r deunyddiau addysgu newydd.

Mi wnaeth Fflur Jones, naw oed, o Brynrhydyrarian, ger Llansannan, Dinbych, Mabli Davies, chwech, o Ddinbych, Enfys Jones, chwech, o Bontnewydd, ger Caernarfon, gymryd rhan yn y rhaglen.

Mae Bethan, mam Fflur, yn hyfforddwr cyfeirio yn adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu.

Mae Bethan, 47 oed, wrth ei bodd bod Makaton bellach ar gael i'r rhai y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddyn nhw.

“Dim ond newydd gael ei phen-blwydd yn naw oed y mae Fflur ac mae lleferydd ganddi ond nid brawddegau, er ein bod ni’n gallu ei deall yn iawn. Mae'n mynychu ysgol brif ffrwd yn Ninbych lle maent yn defnyddio Makaton.

“Roedd rhaid i ni ymladd i gael therapi lleferydd, gan fod cymaint o brinder therapyddion lleferydd sy'n siarad Cymraeg. Mae Dwylo'r Enfys wedi bod yn wych o ran newid agwedd pobl tuag at bobl ag anabledd ac mae Makaton wedi bod yn rhan o hynny. Flynyddoedd yn ôl roedd llawer o bobl ag anabledd yn cael eu cadw mewn ysgolion arbennig – sut mae pethau wedi newid!

“Mae Fflur yn gwybod popeth am Ddwylo’r Enfys. Yn y bennod a recordiwyd mae hi’n mynd i'r siop trin gwallt gyda Heulwen ac yna i dosbarthiadau ddawnsio yn Ninbych."

Roedd mam Mabli hefyd yn hynod falch bod ei merch yn cymryd rhan.

Dywedodd: “Cafodd Mabli ei geni i fynd ar lwyfan. Mae wrth ei bodd yn perfformio,” meddai Manon, sy’n gweithio yn yr ysgol anghenion arbennig yn Nhir Morfa, Y Rhyl.

Dywedodd Ruth Thomas, mam Enfys, a awgrymodd y syniad am y rhaglen yn y lle cyntaf: “Roedd ganddon mi Makaton pan oedd Enfys yn fabi ond roedd popeth yn Saesneg.

"Mae Dwylo'r Enfys yn raglen arbennig sydd i bawb - ddim jyst ar gyfer plant arbenning ond hefyd ar gyfer eu ffrindiau a'u teuluoedd.

"Mae Makaton wedi newid ein bywydau ni ac rwyn gobeitho fod Dwylo'r Enfys am wneud yr un peth i deuluoedd eraill yng Nghymru."

Llun: Enfys Jones, 6, gyda Ceri Bostock

Rhannu |