Teledu

RSS Icon
15 Gorffennaf 2013

Yr 'Ogwen Crack' yn cael ei ddringo'n llwyddiannus am y tro cyntaf

Mae un o ddringfeydd anoddaf Eryri wedi cael ei dringo am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd – ac roedd S4C yno i ffilmio'r foment fawr. Dyma'r eildro erioed i'r ddringfa a elwir yn 'Ogwen Crack' ger Bethesda gael ei dringo yn llwyddiannus.

Bydd cyfle i weld Ioan Doyle, ffermwr defaid a saer maen tair ar hugain oed o Fethesda yn dringo'r 'Ogwen Crack' sydd yn lefel E7 6C ar Defaid a Dringo ar S4C, nos Fawrth 16 Gorffennaf am 9.30pm.

Dringwyd yr 'Ogwen Crack' yn llwyddiannus am y tro cyntaf erioed gan ŵr o'r enw Sean Miles yn 1986 ond does yr un dringwr arall wedi llwyddo i gwblhau'r gamp - tan rŵan.

"Mae'n rhywbeth sydd wedi dal fy llygaid i erioed and ro' ni'n gwybod fod o'n mynd i gymryd dipyn allan ohona i i wneud o," meddai Ioan Doyle, sy'n dringo ers ei fod yn bedair ar ddeg.

"Mae'r 'Ogwen Crack' ar fy 'home turf' i. Dwi 'di tyfu fyny ar ei waelod o, wedyn roedd o'n golygu lot i fi.

"O'r munud 'da chi'n camu ar y graig, yr holl ffordd i'r top, mae' 'intense'. Mae o fel sprint 100 metr."

Mae'r 'Ogwen Crack' yn ddringfa 15 medr serth gyda gafaelio hynod o fach sy'n gwneud y dringo yn gythreulig o anodd.

"Do'n i byth yn meddwl. Nes i gyrraedd top ac 'o ni'n meddwl, 'ddylai hyn ddim bod'! Dwi'm 'di bod yn dringo ers blwyddyn yn iawn ond odd hynna yn anhygoel - dwi'n ôl rŵan de."

Gwyliwch S4C i weld camp Ioan nos Fawrth 16 Gorffennaf am 9.30pm. Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhaglen. Mae S4C ar gael yng Nghymru ar Sky 104; Freeview 4; Virgin TV 166; Freesat 104 ac yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166.

Rhannu |