Teledu

RSS Icon
28 Mehefin 2013

Tir newydd i Rownd a Rownd yn trafod trais yn y cartref

Mae cyfres ddrama Rownd a Rownd ar S4C yn torri tir newydd gan drafod stori trais yn y cartref am y tro cyntaf yn ei hanes. Yn draddodiadol, mae Rownd a Rownd yn gyfres sy'n apelio at blant a phobl ifanc, ond wrth gyflwyno straeon mwy aeddfed y bwriad yw ehangu’r apêl a denu gwylwyr newydd.

Yn ôl un o gynhyrchwyr y gyfres, Susan Waters o gwmni Rondo, roedd yn bwysig eu bod nhw'n delio â'r pwnc mewn modd sensitif, "Ym mis Ebrill, fe symudodd Rownd a Rownd i slot hwyrach yn y nos - o 6.00 i 7.30. Oherwydd hyn, rydym ni am gyflwyno straeon ychydig mwy aeddfed i'r ddrama. Ond, ar yr un pryd, rydym ni'n ymwybodol bod plant yn mwynhau dilyn y gyfres, ac felly mae'n rhaid bod yn ofalus wrth ddelio â thrais. Roeddem ni am gyflwyno'r pwnc, ond am wneud hynny heb ddangos unrhyw olygfeydd fyddai'n anaddas ar gyfer gwylwyr iau."

Yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf, mae stori perthynas dymhestlog Kim a Griff yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda chleisiau ar wyneb Kim yn datgelu gwir gymeriad ei chariad. Yr actores o Gaernarfon, Sioned Wyn sy'n chwarae rhan Kim. Mae hi'n esbonio bod stori'r trais wedi datblygu yn raddol a'i bod hefyd yn ymdrin ag effeithiau cymhleth y trais y tu hwnt i'r cleisiau.

"Ers y cychwyn, mae eu perthynas wedi cael ei reoli gan Griff. Dim ond drwy bethau bach i gychwyn, fel deud wrthi be' i wisgo a sut i ymddwyn," meddai Sioned Wyn. "Pan ddaeth Kim i'r gyfres, roedd hi wedi gadael cartref am fod ei mam yn cael ei tharo gan ei llysdad. Doedd hi ddim yn gallu deall pam nad oedd ei mam yn gadael hefyd. Ond nawr mae hi yn yr un sefyllfa, ac i ddechrau mae hi'n dweud celwydd am nad ydi hi isho i bobl wybod y gwir. Mae hi'n teimlo cymysgedd o gywilydd ac euogrwydd a dydi hi ddim yn gwybod sut i ymdrin â'r sefyllfa."

Bu'r actorion yn ymchwilio'n drylwyr ar gyfer y stori, er mwyn gallu gwneud cyfiawnder â'r pwnc, meddai Sioned Wyn: "Bues i'n darllen straeon mewn papurau newydd a gwylio cyfweliadau teledu gyda phobl oedd wedi dioddef trais gan eu partneriaid. Awduron y sgript sy'n rhoi'r geiriau i ni, ond mae o fyny i ni i droi'r stori yn gig a gwaed, ac roedd o'n bwysig ein bod ni'n gwneud hynny'n iawn. Mae yna gymaint o wahanol fathau o drais yn y cartref, roedd o'n bwysig fod yr ymateb yn driw i'r cymeriad."

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y gyfres ddrama yn cyflwyno rhagor o straeon sy'n delio â phynciau ehangach. Mae Comisiynydd Cynnwys S4C, Gwawr Martha Lloyd, yn esbonio,"Mae Rownd a Rownd yn gyfres sydd wedi bod ar S4C ers dros ddeunaw mlynedd. Wrth iddi ddod i oed, ac addasu ar gyfer ei slot newydd yn y nos, ry' ni'n awyddus i weld pynciau perthnasol o’r fath yn cael eu trafod, gan adlewyrchu realiti bywyd, y llon a'r lleddf. Byddwn yn gwneud hyn, wrth gwrs, mewn modd sy'n parhau i apelio at y gwylwyr presennol yn ogystal â chynulleidfa newydd."

Mae Rownd a Rownd yn parhau bob nos Fawrth a nos Iau am 7.30, gyda rhifyn omnibws (gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin) bob nos Wener am 6.05.

Rhannu |