Teledu
Stwnsh i unrhyw un yn unrhyw le – gwefan newydd i'r gwasanaeth plant a phobl ifanc
Mae Stwnsh wedi lansio gwefan newydd sy'n caniatáu i bobl ifanc wylio'r rhaglen yn fyw ar ffônau clyfar ac ipad am y tro cyntaf.
"Ewch draw i s4c.co.uk/stwnsh i gael golwg ar y wefan," meddai Anni Llŷn, un o gyflwynwyr y gyfres. "Mae'n hawdd iawn ei defnyddio ac mae'n golygu bod Stwnsh rŵan ar gael i unrhyw un, yn unrhyw le, unrhyw bryd."
Lansiwyd y wefan newydd i gyd-fynd â slot newydd Stwnsh yn yr amserlen, rhwng 5.00 a 6.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae Stwnsh Sadwrn yn parhau yn ei slot arferol am 9.00 fore Sadwrn.
Mae'r wefan wedi ei dylunio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, sy'n golygu y bydd y cynnwys i gyd ar gael ar iphone ac ipad yn ogystal â chyfrifiaduron am y tro cyntaf.
"Mae pobl ifanc heddiw yn gwneud bob dim yr un pryd, maen nhw ar y ffôn, yn gwylio'r teledu ac ar y cyfrifiadur! Rŵan gyda'r wefan newydd, mi all y plant wylio Stwnsh, chwarae gemau a chysylltu efo ni yn y stiwdio lle bynnag maen nhw, a hynny ar ffôn neu ipad," meddai Anni sy’n dod yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llŷn.
Mae Anni'n rhan o dîm o gyflwynwyr Stwnsh sy'n cynnwys Lois Cernyw o Langernyw, Tudur Phillips o Fryn Iwan ger Caerfyrddin ac Owain Gwynedd o Borthmadog.
Mae Stwnsh yn fwrlwm o gartŵns fel Kung Fu Panda, Pengwiniaid Madagascar, Henri Helynt a Ben 10 a rhaglenni gwreiddiol fel y gyfres ddogfen #Fi, y gyfres gylchgrawn Tag a'r gystadleuaeth Cog1nio sydd newydd ddychwelyd am gyfres newydd.
"Mae'n bwysig iawn i ni fod y gynulleidfa yn teimlo eu bod nhw'n rhan o Stwnsh. Mae cyfresi fel Cog1nio, #Fi, Y Sgwad a Stwnsh ar y Ffordd yn rhoi cyfle i gannoedd o blant ar draws Cymru fod ar y sgrin ac yn rhan o'r gwasanaeth."
"Rŵan efo'r wefan newydd mi all y bobl ifanc wylio'u hoff raglenni unrhyw dro, trio cystadlaethau Stwnsh, darllen ein blogs ni a chwarae lot o gemau!"
Stwnsh, nos Lun- nos Wener rhwng 5.00 – 6.30, ac yn fyw ar y wefan, s4c.co.uk/stwnsh
Stwnsh
Dydd Llun – Dydd Gwener 5.00-6.30 a bore Sadwrn am 9.00, S4C
Gwefan: s4c.co.uk/stwnsh
Ar alw: s4c.co.uk/clic a s4c.co.uk/stwnsh
Cynhyrchiad Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C
Llun: Anni Llŷn