Teledu

RSS Icon
15 Mawrth 2013

Cofio un o'r cewri – R.S. Thomas

A hithau'r mis hwn yn ganmlwyddiant geni R.S. Thomas, bydd gwaith y bardd cenedlaetholgar a'r cymeriad dadleuol yn cael sylw ar raglen Pethe nos Lun, 25 Mawrth ar S4C. Bydd cyfle hefyd i weld cyfweliad hir olaf R.S. ar y teledu wrth i S4C ddangos rhaglen deyrnged o'r archif R.S. Thomas, y noson ganlynol.

Aeth Lisa Gwilym i Fangor i sgwrsio â'r bardd a'r academydd Jason Walford Davies am y casgliad newydd o dros gant o gerddi R.S. Thomas y mae yntau a Tony Brown wedi'u rhoi at ei gilydd mewn cyfrol o'r enw Uncollected Poems. Yn ogystal, bydd dau arbenigwr ar waith R.S. - Y Prifardd Gwyneth Lewis a’r Athro M. Wynn Thomas - yn edrych yn ôl dros yrfa'r ffigwr dadleuol.

"Pan oeddwn i yn y Brifysgol yng Nghaergrawnt daeth e i siarad gyda ni," meddai Gwyneth Lewis wrth gofio'r tro cyntaf iddi gwrdd ag R.S. Thomas.  "Nes i gynnig ei gyfweld ar gyfer un o'r cylchgronau myfyrwyr ond roedd cymaint o'i ofn e arna i nes bod rhaid i mi fynd â ffrind yn gwmni! Ond mi gawsom ni brynhawn bendigedig, roedd o'n ddyn hynaws tu hwnt."

Trwy gydol ei fywyd ac yn ei holl farddoniaeth, roedd R.S. yn barod i edrych ar ei hun, ei gyd-Gymry a'i wlad mewn ffordd onest, a'r diffyg ofn hwn oedd yn apelio at Gwyneth.

"Mae ei waith e'n unigryw. Mae tôn ei lais yn wahanol i unrhyw un arall a beth wy'n hoffi yw'r ffaith nag oes arno ofn edrych ar ei hun nac ar ein cyflwr ni, yr ochr druenus. Mae e'n un o'r cewri ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n dathlu ei waith."

Hefyd ar Pethe, y comedïwr Noel James fydd yn dewis eitemau i'w rhoi yng 'Nghist Amser Pethe' a bydd yr artist Bedwyr Williams, y darlledwr Dylan Jones a’r actores Fflur Medi Evans yn ymateb i arddangosfa agored Oriel Mostyn.

Nos Fawrth, 26 Mawrth, bydd cyfle i weld y rhaglen archif R.S. Thomas, sgwrs rhwng Jason Walford Davies ac R.S. a ddarlledwyd yn wreiddiol ym 1999. Dyma gyfweliad hir olaf R.S. ar y teledu - ffenest i fywyd a gwaith y bardd enwog, sydd hefyd yn cynnig cyfle i fwynhau triniaeth weledol o bedair o'i gerddi enwocaf.

Pethe, Nos Lun 25 Mawrth 9.30, S4C

R.S. Thomas, Nos Fawrth 26 Mawrth 10.00, S4C    

Cynyrchiadau Cwmni Da ar gyfer S4C

LLUN: Lisa Gwilym

 

 

Rhannu |