Teledu
Lle i gael llonydd - Llefydd Sanctaidd ar S4C
Hanes, traddodiadau, crefydd a chredoau; dyma fydd yn mynd â bryd Ifor ap Glyn yn Llefydd Sanctaidd, cyfres newydd sy'n dechrau ar S4C nos Sul, 20 Ionawr.
Yn ystod y gyfres bydd Ifor yn crwydro Ynysoedd Prydain benbaladr gan fynd ar drywydd llefydd sanctaidd a'r darnau o hanes hynny sydd wedi gadael eu hôl ar hyd a lled y wlad.
Mae'r llefydd sanctaidd hyn yn amrywio o adfeilion ac ynysoedd, i goed ac ogofau, ond dŵr fydd dan sylw yn y rhaglen gyntaf. Mae'r daith yn cychwyn mewn man hudolus uwchben dyffryn Conwy. Yma, yn Eglwys Llangelynnin, mae ffynnon gyda dŵr, sydd yn ôl y sôn, â phwerau i wella plant gwael.
"O fanno fe awn tua'r gogledd ac i Loch Ness i olrhain hanes Sant Columba," meddai Ifor, sydd wedi ymweld â thrideg wyth o lefydd sanctaidd wrth ffilmio'r gyfres. "Dyma sant a fu'n cenhadu ymhlith y Pictiaid, pobloedd hynafol a drigai yng ngogledd yr Alban. Ef oedd y cyntaf i fynd i'r afael â bwystfil y Loch Ness hefyd, yn ôl bob sôn!"
O Loch Ness wedyn i bentref diarffordd Holystone yn Northumberland yng Ngogledd Lloegr ac at bwll bedydd sy'n dyddio 'nôl i oes y Rhufeiniaid. Fe fydd yr arbenigwr Nick Mayhew-Smith, awdur Britain's Holiest Places ac ymgynghorydd ar y gyfres yn ymuno ag Ifor yma i adrodd hanes Sant Ninian, un o genhadon olaf yr oes Rufeinig.
Yn rhyfedd iawn, atgof cyntaf Ifor, a gafodd ei fagu yn Llundain, yw bod mewn lle sanctaidd, ym medydd ei frawd yng nghapel Willesden Green yn Llundain, ac yntau dim ond yn dair oed. Y pedwerydd stop ar y daith i olrhain hanes dŵr yw Treffynnon, ac mae Ifor yn ffeindio ei hun mewn bedydd unwaith eto, ond un tra gwahanol y tro hwn.
"Mae'r ffynnon yn Nhreffynnon yn ffynnon iachau sy'n dyddio 'nôl i'r 7fed ganrif, ac mi ges innau dro ar ymdrochi! Roeddwn i'n gwybod bod tymheredd dŵr y ffynnon yn gyson trwy'r flwyddyn ond dim ond ar ôl i mi fynd i mewn y dywedon nhw wrtha i mai pum gradd oedd tymheredd y dŵr! Roedd gorfod dioddef hynna yn brofiad yn ei hun - felly'r oerfel oedd yr argraff fwyaf!"
Wedi'r profiad ysgytwol hwnnw bydd Ifor yn parhau ar daith i Buxton a Bradwell-on-Sea i ymweld â ffynnon sanctaidd yn y naill, ac i edrych ar hanes dŵr fel cyfrwng cludo i genhadon yn y llall.
"Mae'r llefydd sanctaidd yma yn llefydd i gael llonydd - fe fyddwn ni'n ymweld ag Eglwys Gadeiriol yn Coventry yn un rhaglen, eglwys sydd reit yng nghanol dinas, ac a gafodd ei bomio, ond mae hyd yn oed honno yn ynys; yn werddon o dawelwch yng nghanol dinas."
Llefydd Sanctaidd
Nos Sul 20 Ionawr 8.30, S4C
Isdeitlau Saeseng a sain ddisgrifiad
Gwefan: s4c.co.uk
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Cwmni Da a Western Front Films ar gyfer S4C a BBC4
Llun: Ifor ap Glyn