Teledu
O Gymru i Uganda – pedwar yn teithio i Newid Byd ar S4C
Bydd pedwar o bobl ifanc yn yn cael eu gollwng mewn byd cwbl estron wrth i gyfres newydd o Newid Byd ddechrau ar S4C (nos Lun 7 Ionawr am 5.30pm).
Yn ystod y gyfres, bydd y criw dwy ar bymtheg a deunaw oed, yn mynd i’r afael â heriau ymarferol – bob un wedi’i lunio â’r bwriad o helpu pobl leol a'r amgylchedd, a mentro fwy nag erioed o'r blaen.
Mbale yw prif leoliad y pedwar tra’n Uganda –dinas dros bedair mil o filltiroedd o Gymru, a diwylliant cwbl ddiarth i’r Cymry ifanc.
Y pedwar brwdfrydig a ddewiswyd i deithio gyda'i gilydd yr holl ffordd o Gymru i Uganda yng nghwmni eu harweinydd, Arwel Phillips, yw Ceri Lewis o Bwllheli, Iestyn Lewis o Lannerch y Medd ar Ynys Môn, Luis Evans o Benrhyn y Rhws ym Mro Morgannwg, a Rachel Lewis o Bontarddulais.
Bydd rhaid i'r pedwar dorchi llewys cyn mynd ati i adeiladu ystafelloedd ymolchi i'r gymuned yn slym Namatala, adeiladu sied eifr a phlannu coed ar gyfer elusennau, a helpu adnewyddu llyfrgell mewn ysgol gynradd leol.
Mae'r syndod o weld y tlodi o'u cwmpas yn amlwg ar wyneb y pedwar wedi iddynt lanio ar dir Uganda.
"Ti'n meddwl am Affrica pan ti adra, ond ma'n rhyfedd ei weld gyda dy lygaid dy hun," meddai Ceri o Bwllheli, sydd bellach yn astudio addysg ym mhrifysgol Bangor.
"Ro' n i'n gallu gweld plant bach tua pedair oed allan ar y stryd yn cario dŵr ar eu pennau, ac ychydig eiliadau wedyn lawr y lôn, mi welwn i bobl mewn tai llawer gwell, sy'n amlwg yn costio mwy o arian. Mae’r gwahaniaeth yn anhygoel."
Ond mae digon o egni, cyffro a brwdfrydedd ymysg y criw hefyd.
"Mae'n teimlo'n wych i fod ar dir Uganda," meddai Luis, bachgen 17oed, sy'n mwynhau nofio a syrffio ac sy’n achubwr bywyd ar draeth y Barri yn ystod gwyliau’r ysgol.
"Mae ganddo ni dair wythnos brysur o’n blaenau, gyda'n gilydd, i helpu pobl Uganda."
"Pan gyrhaeddon ni, roedd yr ymateb yn wych. Pan gerddon ni mewn i'r dosbarth am y tro cyntaf, a dyna ble'r oedd y plant i gyd yn ein croesawu ni, ges i goosebumps.
Mae S4C yn falch o allu cynnig cyfle arbennig fel hwn i bobl ifainc, meddai Sioned Wyn Roberts, comisiynydd Newid Byd ar ran y Sianel: "Mae hon yn gyfres wych sy'n agor llygaid plant a phobl ifainc i realiti'r byd mae nhw'n byw ynddo, ac yn dangos hefyd beth all gael ei gyflawni gyda thipyn o fôn braich a brwdfrydedd! I’r criw ifanc yma, mae’r profiadau yn fythgofiadwy ac mae'n braf bod S4C yn gallu cynnig cyfle mor arbennig i rai o bobl ifainc Cymru."
Newid Byd
Nos Lun, 7 Ionawr 5.30pm ar S4C
Gwefan: s4c.co.uk/newidbyd