Teledu

RSS Icon
17 Mawrth 2011

Cyngerdd Gio Compario

Bydd S4C yn darlledu cyngerdd arbennig gyda seren hysbysebion Go Compare Wynne Evans ar Sul y Mamau, 3 Ebrill, pan fydd yn dychwelyd adre' i Gaerfyrddin i berfformio yn Theatr y Lyric.

 

Ond mae’r cyngerdd dim ond yn un hanner o’r pecyn penwythnos am y tenor o Gaerfyrddin sydd wedi dod yn enwog fel y canwr Gio Compario yn yr hysbysebion teledu Gocompare.com.

 

Fe fydd y rhaglen ddogfen ar S4C Wynne Evans, nos Wener, 1 Ebrill yn edrych ar y canwr opera proffesiynol y tu ôl i lais pwerus y Gio dramatig. Cawn ddod i adnabod dyn sy’n caru cerddoriaeth a diwylliant yn angerddol a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i ddylanwad ysbrydoledig ei ddiweddar fam, Elizabeth Evans.

 

Dros y misoedd diwetha’, bu camerâu cwmni teledu Rondo yn dilyn y tenor 39 oed sy’n byw yn Llanisien, Caerdydd gyda’i wraig Tanwen a’i blant, Ismay, 9 a Taliesin, 6.

 

Mae’r misoedd diwetha’ wedi bod yn rhai cyffrous gan ei fod wedi recordio ei albwm gyntaf ym Mhrâg, Gwlad Tsiec; lansio'r albwm 'A Song in my Heart' gyda’r label recordio ryngwladol Warner Music; perfformio yn yr opera newydd Anna Nicole: the opera yn y Royal Opera House, Covent Garden a rhyddhau sengl Nadolig ar gyfer elusen Comic Relief. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae’r paratoi ar gyfer y cyngerdd 'nôl adre yn y Lyric.

 

Trwy’r cyfan, mae’r ddogfen yn portreadu dyn sydd â’i draed yn sownd ar y ddaear tra bod ei lais yn ei arwain at gydnabyddiaeth ryngwladol.

 

"Rwy’n ffodus fy mod i wedi dod yn enwog yn ddiweddarach mewn bywyd nag mewn llawer achos ac efallai fy mod wedi gallu ymdopi â’r cwbl yn well," meddai Wynne. "Mae’r gymuned leol, fy nghymdogion, fy nheulu a ffrindiau yn dal i fy nhrin i fel yr oeddwn i gynt. Mae hynny’n wir hefyd pan wy’n mynd yn ôl i’m tre' enedigol Caerfyrddin - pan wy’n mynd yno, mae e fel petawn erioed wedi gadael."

 

Ond y tu hwnt i’r agwedd hapus braf tuag at fywyd, mae'n ddyn sy’n rhoi pwyslais mawr ar safonau uchel o berfformio. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ansawdd a’r amrywiaeth yn yr albwm sydd yn enghraifft wych o ganwr clasurol yn croesi i arddull fwy poblogaidd.

 

Ychwanega Wynne, "Mae’r blynyddoedd diwetha’ wedi bod yn siwrne ddiddorol i mi ac rwy’n gobeithio bod yr albwm a’r cyngerdd yn adlewyrchu'r cyffro a’r mwynhad yr wyf yn eu cael yn canu mewn arddulliau amrywiol."

 

Wynne Evans

Nos Wener 1 Ebrill 20:25, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk/ cerddoriaeth

Ar Alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C

Cyngerdd Wynne Evans

Nos Sul 3 Ebrill 20:30 S4C

Gwefan: s4c.co.uk/cerddoriaeth

Ar Alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C

Rhannu |