Teledu
Dim ond tri ffermwr bach ar ôl
Mae hanes yn frith o driawdau enwog - y tri gŵr doeth, y tri thenor, y tri mochyn bach. Nawr mae triawd newydd i'w cynnwys ar y rhestr, sef tri ffermwr ola' Fferm Ffactor 2012.
Mae diwedd taith Geraint Jenkins, Gethin Owen a Dilwyn Owen yn nesáu. Dim ond un fydd yn gyrru adref o'r rownd derfynol ar nos Fercher, 28 Tachwedd, gyda theitl Pencampwr y Gyfres a'r wobr fawr - y cerbyd Isuzu D-Max Yukon 4x4.
Ar ôl wyth wythnos o gampau amaethyddol yn cynnwys pluo ieir, cneifio defaid, godro gwartheg a gyrru tractor sut mae'r tri yn teimlo nawr bod y cyfan bron ar ben?
"Mae'n drist bod o'n dod i ben," meddai Gethin, 35, o Fetws yn Rhos ger Conwy. "O gychwyn efo deg ohonom ni ac yn araf deg gweld nhw'n gadael un wrth un, mae'n rhyfedd fod y diwedd wedi dod.
"Pan gychwynnais i, ro'n i'n gobeithio peidio cael y boot yn y rhaglen gynta’ a phetawn i yno hyd y trydydd neu'r bedwaredd raglen buaswn i wedi gwneud yn reit dda. Mae'n gystadleuaeth agos rhwng y tri ohonom ni yn y rownd derfynol, a 'da ni gyd yn haeddu ennill. Ond dwi'n hyderus fy mod i wedi dangos 'mod i'n ddigon da ac yn gallu troi at unrhyw dasg."
Mae Geraint hefyd wedi mwynhau bod ar y rhaglen, ac yn dweud bod ei bersonoliaeth gystadleuol wedi bod yn help mawr ar y daith i'r rownd derfynol.
"Mae'r tri ohonom ni wrth gwrs yn gobeithio dod mas ar y brig. Mae dau gryf iawn yn fy erbyn i ac mae'n lwcus bo fi'n berson cystadleuol! Ry' ni gyd wedi bod yn hafal yn y tasgau diwetha' ac mae'n dibynnu pwy sy'n gwneud y mwya' o argraff yn y dasg ola' nawr," meddai'r ffermwr 24 oed o Dal-y-bont ger Aberystwyth. "Rwy wedi mwynhau mas draw. Yr uchafbwynt i fi oedd y dasg gwneud y caws. Roedd tipyn i'w wneud yn y dasg yna, o gydweithio er mwyn dewis blas, yna cyfarch pobl ar y stryd i ofyn eu barn a meddwl am enw a logo i'r caws. Wnes i byth ddychmygu ar ddechrau Fferm Ffactor y byddwn i'n gweld cynnyrch roeddwn i wedi ei greu ar y silffoedd."
Yn ôl Dilwyn, mae ei uchafbwynt ef yn y gystadleuaeth yn dal i ddod. "Yr uchafbwynt fydd pan fydda i'n ennill y teitl wrth gwrs!" meddai'r ffermwr 34 oed o Lanedwen, Sir Fôn. Ond wrth gwrs, dim ond tynnu coes mae Dilwyn.
"Mae dau foi da iawn yn fy erbyn i ac mae Geraint a Gethin yn gystadleuol iawn. Maen nhw'n deall eu stwff ac mae pwy bynnag sy'n mynd â hi yn haeddu ennill. Isafbwynt y gyfres i mi oedd y dasg gweithio mewn tîm i adeiladu tractor. Wnes i adael fy hun lawr bryd hynny. Ar wahân i hynny, dwi wedi ei fwynhau o i gyd."
Mewn rhaglen awr o hyd i gloi'r gyfres nos Fercher, bydd y deg cystadleuydd yn cwrdd unwaith eto i ddathlu dyfarnu'r buddugwr. Mae'n gyfle i edrych yn ôl ar y gorau a'r gwaethaf o'r gyfres cyn i Geraint, Gethin a Dilwyn wynebu eu her olaf.
Ond i'r beirniaid, Yr Athro Wynne Jones a'r cyn enillydd Aled Rees, mae'r dasg bwysicaf dal o'u blaenau nhw - pwy fyddan nhw yn ei ddewis yn enillydd Fferm Ffactor 2012?
Fferm Ffactor
Nos Fercher 28 Tachwedd 8.25, S4C
Hefyd nos Wener 30 Tachwedd 10.35, S4C
Isdeitlau Saesneg a sain ddisgrifio
Gwefan: s4c.co.uk
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C