Teledu

RSS Icon
09 Tachwedd 2012

Caryl a Robin yn gadael Fferm Ffactor

Caryl a Robin yw'r ddau ddiweddaraf i adael cystadleuaeth Fferm Ffactor 2012, wedi i'r beirniaid eu hanfon adref ar ddiwedd y rhaglen ar nos Fercher, 7 Tachwedd.

Roedd Caryl Hughes, o Lanarmon Dyffryn Ceiriog, a Robin Williams, o Dudweiliog, Pen Llŷn, yn y tîm wnaeth golli'r dasg yn y rhaglen nos Fercher, ble roedd angen iddyn nhw greu blas newydd o gaws i Hufenfa De Arfon.

Mae'r caws buddugol Tân y Ddraig - a ddyfeisiwyd gan Geraint, Gethin a Dilwyn - bellach ar gael yn y siopau am gyfnod cyfyngedig. Bydd y caws ar gael ar gownteri deli Blas ar Fwyd yn Llanrwst, Y Bwtri ym Mhwllheli, Jenkins Family Butchers o Gastell Newydd Emlyn a Deli Ultracomida yn Aberystwyth. Prynwch eich tamaid nawr cyn i’r cyfan werthu.

Ar ddechrau'r gystadleuaeth roedd Caryl yn benderfynol o ddangos bod merched llawn cystal â dynion ar y fferm. Ydi hi'n teimlo ei bod hi wedi llwyddo?

"Dwi wedi cwffio fy nghongl ddigon ac wedi mynd at bob tasg yn hyderus. Dwi wedi trio dangos fy holl ddoniau, ond dwi'n gwybod bod merched allan yna yn well na fi a buaswn i yn annog nhw i drio yn y gystadleuaeth. Os ydw i wedi mynd mor bell â hyn bydd merch efo ychydig mwy o brofiad yn gallu gwneud yn dipyn gwell," meddai'r ffermwr ifanc wnaeth raddio o Brifysgol Aberystwyth eleni.

Mae Robin yn siomedig nad oedd o wedi mynd ymhellach yn y gystadleuaeth, ond mae o wedi mwynhau'r profiad ar y cyfan ar wahân i'r dasg odro efallai!

"Doeddwn i ddim wedi godro fawr ddim cyn y dasg honno wythnos ddiwetha' a dwi ddim callach rŵan chwaith!" meddai'r ffermwr 30 oed.

"Byswn i wedi licio mynd yn bellach ac yn reit siomedig am adael. Ond, dwi wedi mwynhau o'n ofnadwy."

Dim ond pedwar ffermwr sydd ar ôl yn y gystadleuaeth erbyn hyn. Bydd y rhaglen yr wythnos nesa, Mercher 14 Tachwedd, ymlaen yn hwyrach na'r arfer am 9.00 yr hwyr. Pa ffermwr fydd y nesaf i adael y gystadleuaeth, gyda'r wobr fawr yn agosáu?

 

Rhannu |